1Yna efe a orchmynnodd ei dwyn hi i mewn, lle yr oedd ei drysorau ef ynghadw, ac a archodd hulio bwrdd iddi hi o’i fwydydd ei hun, ac o’i win i yfed.
2A Judith a ddywedodd, Ni fwytâf fi ohonynt, rhag bod camwedd: eithr o’r pethau hyn a ddaeth gyda mi y bydd fy nhraul.
3Yna Oloffernes a ddywedodd wrthi, Os derfydd y pethau sy gyda thi, o ba le y gallwn ni roddi eu cyffelyb hwynt i ti? canys nid oes gyda ni neb o’th genedl di.
4A Judith a ddywedodd wrtho ef, Fel y mae dy enaid yn fyw, fy arglwydd, ni threulia dy wasanaethferch yr hyn sy gyda mi, hyd oni wnêl yr Arglwydd trwy fy llaw i yr hyn y rhoddodd efe ei fryd arno.
5Yna gweision Oloffernes a’i dygasant hi i’r babell; a hi a gysgodd hyd hanner nos, ac a gyfododd ar yr wyliadwriaeth foreol;
6A hi a anfonodd at Oloffernes, gan ddywedyd, Gorchmynned fy arglwydd yn awr ollwng dy wasanaethferch i fyned allan i weddïo.
7Yna Oloffernes a orchmynnodd i wylwyr ei gorff ef na rwystrent hi: felly hi a arhosodd yn y gwersyll dri diwrnod; a hi a âi allan liw nos i ddyffryn Bethulia, ac a ymolchai mewn ffynnon ddwfr wrth y gwersyll.
8A phan ddeuai hi i fyny, hi a weddïai ar Arglwydd Dduw Israel, ar iddo ef gyfarwyddo ei ffordd hi, er dyrchafiad meibion ei phobl.
9Felly hi a âi i mewn yn lân, ac a drigai yn y babell, hyd oni fwytâi hi ei bwyd yn yr hwyr.
10Ac ar y pedwerydd dydd, Oloffernes a wnaeth wledd i’w weision ei hun yn unig, ac ni wahoddodd efe neb o’r swyddogion i’r wledd.
11Yna y dywedodd efe wrth Bagoas ei stafellydd, yr hwn oedd swyddog ar yr hyn oll a feddai efe, Dos, cais gan yr Hebrees yn awr, yr hon sy gyda thi, ddyfod atom ni, fel y bwytao ac yr yfo hi gyda ni:
12Canys wele, cywilydd yw i’n hwyneb ni ollwng ymaith y fath wraig heb ymddiddan â hi: oni bydd i ni ei denu hi atom, hi a’n gwatwar ni.
13Yna Bagoas a aeth ymaith o ŵydd Oloffernes, ac a ddaeth i mewn ati hi, ac a ddywedodd, Na fydded blin gan y ferch lân yma ddyfod at fy arglwydd, i’w hanrhydeddu ger ei fron ef, ac i yfed gyda ni win yn hyfryd, ac i fod y dydd hwn fel yn o ferched meibion Asyria, y rhai sydd yn sefyll yn nhŷ Nabuchodonosor.
14A Judith a ddywedodd wrtho ef, Pwy ydwyf fi fel y dywedwn yn erbyn fy arglwydd? canys beth bynnag a fyddo bodlon ganddo ef, myfi a’i gwnaf yn ebrwydd; a hyn fydd i mi yn llawenydd hyd ddydd fy marwolaeth.
15Felly hi a gyfododd, ac a ymharddodd â dillad, ac â phob addurnwisgoedd gwragedd; a’i llawforwyn hi a ddaeth, ac a ledodd iddi hi ar y llawr, ar gyfer Oloffernes, y crwyn a gawsai hi gan Bagoas i’w chyfraid ei hun beunydd, fel yr eisteddai hi ac y bwytâi arnynt.
16Pan ddaeth Judith i mewn, ac eistedd, yna calon Oloffernes a ddychlamodd o’i herwydd hi, a’i ysbryd ef a gynhyrfodd, ac yr oedd yn chwannog iawn i gydorwedd â hi: canys yr oedd efe yn gwylied amser i’w thwyllo, er y dydd y gwelsai efe hi.
17Yna Oloffernes a ddywedodd wrthi, Yf yn awr, a bydd lawen gyda ni.
18A Judith a ddywedodd, Mi a yfaf yn awr, O arglwydd, canys fy einioes a fawrygwyd heddiw, rhagor yr holl ddyddiau er pan y’m ganed.
19Yna y cymerodd hi, ac y bwytaodd ac yr yfodd ger ei fron ef yr hyn a baratoesai ei llawforwyn hi.
20Ac Oloffernes, a aeth yn llawen o’i phlegid hi, ac a yfodd o win fwy o lawer nag a yfasai efe mewn un dydd er pan anesid ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.