Eseia 19 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Baich yr Aifft. Wele yr ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl ysgafn, ac efe a ddaw i’r Aifft: ac eilunod yr Aifft a gynhyrfant rhagddo ef, a chalon yr Aifft a dawdd yn ei chanol.

2Gyrraf hefyd yr Eifftiaid yn erbyn yr Eifftiaid, a hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd, a phob un yn erbyn ei gymydog; dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas.

3Ac ysbryd yr Aifft a balla yn ei chanol, a mi a ddiddymaf ei chyngor hi: yna yr ymofynnant ag eilunod, ac â swynyddion, ac â dewiniaid, ac â brudwyr.

4A mi a gaeaf yr Aifft yn llaw arglwydd caled; a brenin cadarn a lywodraetha arnynt, medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y lluoedd.

5A’r dyfroedd a ddarfyddant o’r môr, yr afon hefyd a â yn hesb ac yn sech.

6A hwy a droant yr afonydd ymhell; y ffrydiau amddiffyn a ddihysbyddir, ac a sychant: torrir ymaith bob corsen a hesgen.

7Y papurfrwyn wrth yr afon, ar fin yr afon, a phob peth a heuwyd wrth yr afon, a wywa, a chwelir, ac ni bydd mwy.

8Y pysgodwyr hefyd a dristânt, a’r rhai oll a fwriant fachau i’r afonydd a alarant: felly y rhai a daenant rwydau ar hyd wyneb y dyfroedd a lesgânt.

9Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant feinllin, a’r rhai a weant rwydwaith.

10A hwy a dorrir yn eu bwriadau, y rhai oll a wnânt argaeau a physgodlynnau.

11Diau ynfydion yw tywysogion Soan; cyngor doethion gynghorwyr Pharo a aeth yn ynfyd: pa fodd y dywedwch wrth Pharo, Mab y doethion ydwyf fi, mab hen frenhinoedd?

12Mae hwynt? mae dy ddoethion? a mynegant i ti yr awr hon, a gwybyddant pa gyngor a gymerodd ARGLWYDD y lluoedd yn erbyn yr Aifft.

13Tywysogion Soan a ynfydasant; twyllwyd tywysogion Noff, a phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aifft.

14Cymysgodd yr ARGLWYDD ynddi ysbryd gwrthnysigrwydd; a hwy a wnaethant i’r Aifft gyfeiliorni yn ei holl waith, fel y cyfeiliorna meddwyn yn ei chwydfa.

15Ac ni bydd gwaith i’r Aifft, yr hwn a wnelo y pen na’r gloren, y gangen na’r frwynen.

16Y dydd hwnnw y bydd yr Aifft fel gwragedd; canys hi a ddychryna, ac a ofna rhag ysgydwad llaw ARGLWYDD y lluoedd, yr hon a ysgydwa efe arni hi.

17A bydd tir Jwda yn arswyd i’r Aifft: pwy bynnag a’i cofia hi, a ofna ynddo ei hun; oherwydd cyngor ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn a gymerodd efe yn ei herbyn hi.

18Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aifft yn llefaru iaith Canaan, ac yn tyngu i ARGLWYDD y lluoedd: Dinas distryw y gelwir un.

19Y dydd hwnnw y bydd allor i’r ARGLWYDD yng nghanol tir yr Aifft, a cholofn i’r ARGLWYDD gerllaw ei therfyn hi.

20Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i ARGLWYDD y lluoedd yn nhir yr Aifft. Canys llefant ar yr ARGLWYDD oherwydd y gorthrymwyr; ac efe a enfyn iddynt iachawdwr a phennaeth, ac efe a’u gwared hwynt.

21A’r ARGLWYDD a adwaenir gan yr Aifft; ie, yr Eifftiaid a adwaenant yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw: gwnânt hefyd aberth ac offrwm, ac addunant adduned i’r ARGLWYDD, ac a’i talant.

22Yr ARGLWYDD hefyd a dery yr Aifft; efe a’i tery, ac a’i hiachâ; hwythau a droant at yr ARGLWYDD, ac efe a’u gwrendy hwynt, ac a’u hiachâ hwynt.

23A’r dydd hwnnw y bydd priffordd o’r Aifft i Asyria, ac yr â yr Asyriad i’r Aifft, a’r Eifftiad i Asyria: a’r Eifftiaid gyda’r Asyriaid a wasanaethant.

24Y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydydd gyda’r Aifft, a chydag Asyria, sef yn fendith o fewn y tir:

25Yr hwn a fendithia ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd Bendigedig yw yr Aifft fy mhobl i, ac Asyria gwaith fy nwylo, ac Israel fy etifeddiaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help