Actau’r Apostolion 14 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A digwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i synagog yr Iddewon, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr o’r Iddewon ac o’r Groegwyr hefyd.

2Ond yr Iddewon anghredadun a gyffroesant feddyliau’r Cenhedloedd, ac a’u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr.

3Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr, gan fod yn hy yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras, ac yn cenhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt.

4Eithr lliaws y ddinas a rannwyd: a rhai oedd gyda’r Iddewon, a rhai gyda’r apostolion.

5A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cenhedloedd a’r Iddewon, ynghyd â’u llywodraethwyr, i’w hamherchi hwy, ac i’w llabyddio,

6Hwythau a ddeallasant hyn, ac a ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i’r wlad oddi amgylch:

7Ac yno y buant yn efengylu.

8Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd gloff o groth ei fam, ac ni rodiasai erioed.

9Hwn a glybu Paul yn llefaru, yr hwn wrth edrych yn graff arno, a gweled fod ganddo ffydd i gael iechyd,

10A ddywedodd â llef uchel, Saf ar dy draed yn union. Ac efe a neidiodd i fyny, ac a rodiodd.

11A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethai Paul, hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, Y duwiau yn rhith dynion a ddisgynasant atom.

12A hwy a alwasant Barnabas yn Jwpiter; a Phaul yn Mercurius, oblegid efe oedd yr ymadroddwr pennaf.

13Yna offeiriad Jwpiter, yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau i’r pyrth, ac a fynasai gyda’r bobl aberthu.

14A’r apostolion Barnabas a Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant ymhlith y bobl, gan lefain,

15A dywedyd, Ha wŷr, paham y gwnewch chwi’r pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a’r môr, a’r holl bethau sydd ynddynt:

16Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i’r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain.

17Er hynny ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi-dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o’r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd.

18Ac er dywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y bobl rhag aberthu iddynt.

19A daeth yno Iddewon o Antiochia ac Iconium, a hwy a berswadiasant y bobl; ac wedi llabyddio Paul, a’i llusgasant ef allan o’r ddinas, gan dybied ei fod ef wedi marw.

20Ac fel yr oedd y disgyblion yn sefyll o’i amgylch, efe a gyfododd, ac a aeth i’r ddinas: a thrannoeth efe a aeth allan, efe a Barnabas, i Derbe.

21Ac wedi iddynt bregethu’r efengyl i’r ddinas honno, ac ennill llawer o ddisgyblion, hwy a ddychwelasant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia,

22Gan gadarnhau eneidiau’r disgyblion, a’u cynghori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw.

23Ac wedi ordeinio iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a gweddïo gydag ymprydiau, hwy a’u gorchmynasant hwynt i’r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo.

24Ac wedi iddynt dramwy trwy Pisidia, hwy a ddaethant i Pamffylia.

25Ac wedi pregethu’r gair yn Perga, hwy a ddaethant i waered i Attalia:

26Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia, o’r lle yr oeddynt wedi eu gorchymyn i ras Duw i’r gorchwyl a gyflawnasant.

27Ac wedi iddynt ddyfod, a chynnull yr eglwys ynghyd, adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwy, ac iddo ef agoryd i’r Cenhedloedd ddrws y ffydd.

28Ac yno yr arosasant hwy dros hir o amser gyda’r disgyblion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help