Ecclesiasticus (Sirach) 22 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 22

1Y diog sy gyffelyb i garreg fudr; a phawb a’i hwtia ef allan er amarch iddo.

2I fiswail tomennau y cyffelybir y diog; pob un a’i cymero i fyny a ysgwyd ei law.

3Gwaradwydd y tad a’i cenhedlodd yw mab diaddysg; a merch ffôl a anwyd i’w golled ef.

4Merch gall fydd etifedd ei gŵr: a’r waradwyddus sy dristwch i’w thad.

5Yr hy a waradwydda ei thad a’i gŵr; a hi a amherchir gan bob un o’r ddau.

6Megis cerdd mewn tristwch yw ymadrodd allan o amser: eithr prydlon bob amser fydd ffrewyllau ac addysg doethineb.

7Megis asio llestr pridd y mae yr hwn sy yn dysgu’r ffôl, ac megis un yn deffro un o drymgwsg.

8Mynegi i un yn cysgu y mae yr hwn sydd yn mynegi peth i un ffôl: a phan ddarffo’r chwedl, efe a ddywed, Beth yw’r mater?

9Plant yn cael eu cynhaliaeth mewn buchedd dda, sydd yn cuddio gwaeledd eu rhieni:

10A phlant yn ymffrostio mewn dirmyg ac annoethineb, sydd yn halogi bonedd eu carennydd.

11Wyla am y marw; canys efe a gollodd y goleuni: ac wyla am y ffôl; canys y mae diffyg synnwyr arno: wyla ychydig am y marw, am iddo ef orffwys; eithr gwaeth na marwolaeth yw bywyd y ffôl.

12Saith niwrnod fydd o alar am y marw; ond am y ffôl a’r annuwiol, holl ddyddiau ei einioes ef.

13Na amlha eiriau gyda’r angall, ac na ddos at yr annoeth: ymgadw oddi wrtho ef, rhag cael blinder, ac na’th haloger di gan ei frynti ef: cilia oddi wrtho, a thi a gei orffwystra, a byth ni’th flinir â’i ynfydrwydd ef.

14Beth sy drymach na phlwm? a pha enw sydd iddo ef ond Ffôl?

15Haws yw dwyn tywod, a halen, a darn o haearn, na dyn ansynhwyrol.

16Coed wedi ei gysylltu a’i rwymo yn adeiladaeth, ni ddetyd er ei ysgwyd; felly calon wedi ei sicrhau trwy gyngor doeth, nid arswyda un amser gan ofn.

17Calon wedi ei chadarnhau trwy feddwl deallus, sy fel plastr teg ar bared llyfn.

18Ni saif palis a osodir yn uchel, yn erbyn y gwynt: felly calon ofnus, gyda meddwl un ffôl, ni phery yn erbyn ofn.

19Yr hwn a bigo lygad, a ddwg ddagrau allan; a’r hwn a bigo galon, a bair iddi ddangos ei gwybodaeth.

20Yr hwn a deifl garreg at adar, a’u tarfa hwynt; a’r hwn sydd yn gwaradwyddo ei gyfaill, sydd yn datod cyfeillach.

21Pe tynnit gleddyf ar dy gyfaill, na anobeithia: oherwydd y mae cymod.

22Ped agorit dy safn yn erbyn dy gyfaill, nac ofna: oblegid fe all bod cytundeb; ond am waradwydd, a balchder, datguddio cyfrinach, a dyrnod trwy dwyll: am y pethau hyn y ffy pob cyfaill ymaith.

23Cadw ffyddlondeb â’th gymydog yn ei dlodi, fel y gallech lawenychu yn ei wynfyd ef: glŷn wrtho yn amser cystudd, fel y byddech gyd-etifedd yn ei etifeddiaeth ef. Nid yw tlodi bob amser i’w ddiystyru, na’r cyfoethog angall i’w fawr berchi.

24O flaen tân y mae tarth a mwg y ffumer yn myned: felly y mae ymddifenwi o flaen celanedd.

25Nid cywilydd fydd gennyf amddiffyn fy nghyfaill; ac nid ymguddiaf rhagddo ef.

26O digwydd i mi ddrwg o’i blegid ef, pob un a glywo a ochel rhagddo.

27Pwy a esyd gadwraeth o flaen fy ngenau, a sêl doethineb ar fy ngwefusau, fel na syrthiwyf yn ddisymwth trwyddynt, ac na’m difetho fy nhafod?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help