Job 28 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Diau fod gwythen i’r arian; a lle i’r aur, lle y coethant ef.

2Haearn a dynnir allan o’r pridd; ac o’r garreg y toddir pres.

3Efe sydd yn gosod terfyn ar dywyllwch, ac yn chwilio allan bob perffeithrwydd; hyd yn oed meini tywyllwch a chysgod angau.

4Y mae yr afon yn torri allan oddi wrth y trigolion, y dyfroedd a anghofiwyd gan y troed: hwy a sychasant ac a aethant ymaith oddi wrth ddynion.

5Y ddaearen, ohoni y daw bara: trowyd megis tân oddi tani.

6Ei cherrig hi a fyddant le i saffir; a phriddellau aur sydd iddi.

7Y mae llwybr nid adnabu aderyn, ac ni chanfu llygad barcud:

8Yr hwn ni sathrodd cenawon llew; nid aeth hen lew trwyddo.

9Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o’r gwraidd.

10Y mae efe yn peri i afonydd dorri trwy y creigiau; ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr.

11Y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag llifo, ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni.

12Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall?

13Ni ŵyr dyn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw.

14Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi: ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyda myfi.

15Ni cheir hi er aur pur; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian.

16Ni chyffelybir hi i’r aur o Offir; nac i’r onics gwerthfawr, nac i’r saffir.

17Nid aur a grisial a’i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi.

18Ni chofir y cwrel, na’r gabis: canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau.

19Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur.

20Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha le y mae mangre deall?

21Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd.

22Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom â’n clustiau sôn amdani hi.

23DUW sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi.

24Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear, ac yn gweled dan yr holl nefoedd;

25I wneuthur pwys i’r gwynt; ac efe a bwysa’r dyfroedd wrth fesur.

26Pan wnaeth efe ddeddf i’r glaw, a ffordd i fellt y taranau:

27Yna efe a’i gwelodd hi, ac a’i mynegodd hi; efe a’i paratôdd hi, a hefyd efe a’i chwiliodd hi allan.

28Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb; a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help