1Digwyddodd hefyd ddal saith mrodyr â’u mam, a pheri o’r brendin iddynt yn erbyn y gyfraith fwyta cig moch; a hwy a gurwyd â fflangellau a gwiail.
2Ond un ohonynt, yr hwn a ddadleuodd yn gyntaf, a ddywedodd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio? a pha beth a fynni di ei wybod gennym ni? canys yr ydym ni yn barod i farw yn gynt nag y torrwn gyfreithiau ein tadau.
3Yna y cythruddodd y brenin, ac y parodd dwymo pedyll a pheiriau;
4Y rhai yn y man a wnaethpwyd yn boeth; ac efe a orchmynnodd dorri allan dafod yr hwn a ddadleuasai yn gyntaf, a’i flingo ef, a thorri ymaith ei aelodau eithaf yng ngolwg ei frodyr eraill a’i fam.
5Weithian, pan na ellid dim ohono ef, efe a barodd ei ddwyn ef i’r tân, a’i ffrio yn fyw: a thra yr oedd y mwg dros hir o amser yn mygu allan o’r pair, y brodyr eraill a’u mam a anogent ei gilydd i farw yn wrol, gan ddywedyd fel hyn,
6Y mae’r Arglwydd Dduw yn edrych arnom, ac yn ddiau efe a gymer ddiddanwch ohonom ni, megis y mynegodd Moses yn ei ganiad, yn yr hon y tystiolaethodd wrth eu hwynebau hwynt, gan ddywedyd, Ac efe a gymer ddiddanwch yn ei weision.
7Wedi marw o’r cyntaf fel hyn, hwy a ddygasant yr ail i’w wneuthur yn watworgerdd: ac wedi iddynt dynnu croen ei ben ef a’i wallt, hwy a ofynasant iddo, A fwytei di, cyn merthyru pob aelod o’th gorff?
8Ond efe a atebodd yn iaith ei wlad, Na wnaf. Am hynny hwn hefyd fel y cyntaf a ferthyrwyd yn gyflym.
9A phan oedd yn rhoddi i fyny’r ysbryd, efe a ddywedodd, Tydi, lofrudd, wyt yn dwyn ein bywyd presennol oddi arnom; ond Brenin y byd a’n cyfyd ni, y rhai ydym yn meirw dros ei gyfreithiau ef, i fywyd tragwyddol.
10Yn ôl hwn y dygwyd y trydydd hefyd i’w watwar: a phan ofynasant am ei dafod, efe a’i hestynnodd allan yn ebrwydd, ac a ledodd ei freichiau yn hy;
11Ac a lefarodd yn wrol, Y rhai hyn a gefais i gan Dduw o’r nef, a’r rhai hyn yr ydwyf fi yn eu dirmygu er mwyn ei gyfreithiau ef, ac yr ydwyf yn gobeithio derbyn y rhai hyn eilwaith ganddo ef:
12Yn gymaint ag i’r brenin a’r rhai oedd gydag ef synnu a rhyfeddu wrth galondid y gŵr ieuanc; oblegid nid oedd efe yn prisio am ei boenau.
13Ac yn ôl marw hwn, hwy a ferthyrasant y pedwerydd hefyd yr un modd;
14Yr hwn pan ydoedd agos â marw, a ddywedodd fel hyn, Da ydyw, pan roddir ni i farwolaeth gan ddynion, i ni ddisgwyl am obaith oddi wrth Dduw, fel y’n cyfoder eilwaith trwyddo ef: canys i ti ni bydd cyfodiad i fywyd.
15Wedi hynny hwy a ddygasant y pumed, ac a’i merthyrasant:
16Yr hwn, gan edrych ar y brenin, a ddywedodd, Y mae gennyt allu ymysg dynion, ac er dy fod di yn farwol, yr wyt yn gwneuthur a fynnech: ond na thybia wrthod o Dduw ein cenedl ni.
17Ond disgwyl ennyd, a gwêl ei allu mawr ef, fel y cosba efe dydi a’th had.
18Yn ôl hwn hwy a ddygasant y chweched; yr hwn, pan ydoedd yn marw, a ddywedodd, Na sioma mohonot dy hun heb achos: canys nyni ydym yn dioddef y pethau hyn o’n plegid ein hunain: oblegid pechu ohonom yn erbyn ein Duw, am hynny yr ydys yn gwneuthur i ni bethau rhyfedd.
19Ond na feddwl di y dihengi di heb dy gosbi, yr hwn wyt yn ceisio rhyfela yn erbyn Duw.
20Ond y fam oedd yn rhyfeddfawr ragorol, ac yn haeddu cof ardderchog: oblegid pan welodd hi ei saith mab wedi eu lladd mewn ysbaid diwrnod, hi a oddefodd hynny â chalon rymus, oblegid ei gobaith a osodasai hi yn yr Arglwydd.
21A hi a anogodd bob un ohonynt yn iaith ei gwlad, ac yn llawn o ysbryd hi a gynhyrfodd ei meddwl gwreigaidd â chalon wrol, ac a ddywedodd wrthynt,
22Ni wn i pa fodd y daethoch i’m croth i: canys ni roddais i chwi nac anadl nac einioes, ac nid myfi a luniodd aelodau eich cyrff:
23Ond yn ddiau Gwneuthurwr y byd, yr hwn a luniodd enedigaeth dyn, ac a gafodd allan naturiaeth pob peth, a’r hwn a rydd eilwaith i chwi, er ei drugaredd, anadl a bywyd, yn gymaint ag i chwi yn awr eich dirmygu eich hunain er mwyn ei gyfreithiau ef.
24Ond Antiochus, gan dybio ei ddirmygu, a chan feddwl fod ei hymadrodd hi yn waradwyddus, tra ydoedd yr ieuangaf eto yn fyw, a geisiodd ei ddenu nid yn unig â geiriau, ond hefyd trwy addo â llyfau ei wneuthur ef yn gyfoethog ac yn ddedwydd, os efe a ymwrthodai â chyfreithiau ei dadau; a hefyd y cymerai efe ef megis yn gâr iddo, ac y rhoddai iddo swyddau:
25Ac oblegid na wrandawai y gŵr ieuanc arno er dim, efe a barodd gyrchu ei fam ef, ac a eiriolodd arni hi gynghori y gŵr ieuanc i achub ei hoedl.
26Ac wedi iddo ddeisyfu arni hynny â geiriau lawer, hi a addawodd iddo y cynghorai hi ei mab.
27Yna ei fam a droes ato, a chan watwar y gorthrymwr creulon, hi a ddywedodd yn iaith ei gwlad, Fy mab, trugarha wrthyf, yr hon a’th ddug di naw mis yn fy mru, yr hon a roddais i ti laeth dair blynedd, yr hon a’th ddug di i fyny hyd yn hyn, a’r hon a oddefais orthrymderau dy fagwriaeth.
28Atolwg i ti, fy mab, edrych ar y nef a’r ddaear, ac edrych ar bob peth ag sydd ynddynt; cydnebydd wneuthur o Dduw y pethau hyn o’r pethau nid oeddynt, a gwneuthur rhywogaeth dyn felly hefyd.
29Nac ofna mo’r cigydd hwn, ond bydd debyg i’th frodyr; cymer dy farwolaeth, fel y gallwyf dy dderbyn gyda’th frodyr yn yr unrhyw drugaredd.
30A thra yr ydoedd hi yn dywedyd hyn, y gŵr ieuanc a lefarodd, Beth yr ydych chwi yn ei ddisgwyl? nid oes yn fy mryd ufuddhau gorchymyn y brenin; ond myfi a ufuddhaf orchmynion y gyfraith, y rhai a roddwyd i’n tadau ni trwy law Moses.
31Tithau hefyd, yr hwn wyt ddychmygwr pob drwg i’r Hebreaid, ni ddihengi rhag llaw Dduw:
32Canys nyni ydym yn goddef hyn oblegid ein pechodau ein hunain.
33Ond er bod y Duw byw dros ennyd yn digio wrthym er mwyn ein cosbi a’n ceryddu, eto efe a gymyd drachefn â’i weision.
34Ond tydi, O annuwiol ac ysgeleraf o’r holl ddynion, nac ymddyrcha yn ddiachos, ac nac ymchwydda â gobaith ofer, gan godi dy ddwylo yn erbyn gweision Duw:
35Canys ni ddihengaist ti eto rhag barn Duw hollalluog, yr hwn sydd yn gweled pob peth.
36Fy mrodyr, y rhai weithian a oddefasant lafur byr, ydynt yr awron dan sanctaidd gyfamod bywyd tragwyddol: tithau hefyd trwy farn Duw, a dderbynni gosbedigaeth addas oblegid dy falchder.
37Minnau hefyd, megis ag y gwnaeth fy mrodyr, a roddaf fy nghorff a’m heinioes dros gyfreithiau ein teidiau, gan atolwg i Dduw drugarhau ohono yn gyflym wrth ein cenedl ni, a pheri i tithau trwy benyd a chosbedigaeth gyffesu mai efe sy Dduw yn unig;
38A diweddu hefyd ynof fi a’m brodyr o ddigofaint yr Hollalluog, yr hwn yn addas a syrthiodd ar ein holl genedl ni.
39Yna’r brenin wedi ei enynnu â chynddaredd, a wynfydodd yn erbyn hwn yn fwy na neb, ac a fu drwm ganddo ei watwar.
40Hwn hefyd a fu farw yn sanctaidd, gan roddi ei gwbl ymddiried yn yr Arglwydd.
41Yn ddiwethaf o’r cwbl, y fam yn ôl ei meibion a fu farw.
42Weithian bydded digon dywedyd hyn am eu gwleddau, a’u creulondeb aruthrol hwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.