1Gwrandawed yr ARGLWYDD arnat yn nydd cyfyngder: enw DUW Jacob a’th ddiffynno.
2Anfoned i ti gymorth o’r cysegr, a nerthed di o Seion.
3Cofied dy holl offrymau, a bydded fodlon i’th boethoffrwm. Sela.
4Rhodded i ti wrth fodd dy galon; a chyflawned dy holl gyngor.
5Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein DUW: cyflawned yr ARGLWYDD dy holl ddymuniadau.
6Yr awr hon y gwn y gwared yr ARGLWYDD ei eneiniog: efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef.
7Ymddiried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch: ond nyni a gofiwn enw yr ARGLWYDD ein DUW.
8Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant; ond nyni a gyfodasom, ac a safasom.
9Achub, ARGLWYDD: gwrandawed y Brenin arnom yn y dydd y llefom.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
