1Mawr yw yr ARGLWYDD, a thra moliannus, yn ninas ein DUW ni, yn ei fynydd sanctaidd.
2Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Seion, yn ystlysau y gogledd, dinas y Brenin mawr.
3 DUW yn ei phalasau a adwaenir yn amddiffynfa.
4Canys, wele, y brenhinoedd a ymgynullasant, aethant heibio ynghyd.
5Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant; brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst.
6Dychryn a ddaeth arnynt yno, a dolur, megis gwraig yn esgor.
7Â gwynt y dwyrain y drylli longau y môr.
8Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas ARGLWYDD y lluoedd, yn ninas ein DUW ni: DUW a’i sicrha hi yn dragywydd. Sela.
9Meddyliasom, O DDUW, am dy drugaredd yng nghanol dy deml.
10Megis y mae dy enw, O DDUW, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir: cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw.
11Llawenyched mynydd Seion, ac ymhyfryded merched Jwda, oherwydd dy farnedigaethau.
12Amgylchwch Seion, ac ewch o’i hamgylch hi; rhifwch ei thyrau hi.
13Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau; fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ôl.
14Canys y DUW hwn yw ein DUW ni byth ac yn dragywydd: efe a’n tywys ni hyd angau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
