2 Cronicl 7 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac wedi gorffen o Solomon weddïo, tân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a ysodd y poethoffrwm a’r ebyrth; a gogoniant yr ARGLWYDD a lanwodd y tŷ.

2Ac ni allai yr offeiriaid fyned i mewn i dŷ yr ARGLWYDD, oherwydd gogoniant yr ARGLWYDD a lanwasai dŷ yr ARGLWYDD.

3A phan welodd holl feibion Israel y tân yn disgyn, a gogoniant yr ARGLWYDD ar y tŷ, hwy a ymgrymasant â’u hwynebau i lawr ar y palmant, ac a addolasant, ac a glodforasant yr ARGLWYDD, canys daionus yw efe; oherwydd bod ei drugaredd ef yn dragywydd.

4Yna y brenin a’r holl bobl a aberthasant ebyrth gerbron yr ARGLWYDD.

5A’r brenin Solomon a aberthodd aberth o ddwy fil ar hugain o ychen, a chwech ugain mil o ddefaid: felly y brenin a’r holl bobl a gysegrasant dŷ DDUW.

6A’r offeiriaid oedd yn sefyll yn eu goruchwyliaeth: a’r Lefiaid ag offer cerdd yr ARGLWYDD, y rhai a wnaethai Dafydd y brenin i gyffesu yr ARGLWYDD, oherwydd yn dragywydd y mae ei drugaredd ef, pan oedd Dafydd yn moliannu DUW trwyddynt hwy: a’r offeiriaid oedd yn utganu ar eu cyfer hwynt, a holl Israel oedd yn sefyll.

7A Solomon a gysegrodd ganol y cyntedd yr hwn oedd o flaen tŷ yr ARGLWYDD: canys yno yr offrymodd efe boethoffrymau, a braster yr aberthau hedd; canys ni allai yr allor bres a wnaethai Solomon dderbyn y poethoffrwm, a’r bwyd-offrwm, a’r braster.

8A Solomon a gadwodd ŵyl y pryd hwnnw saith niwrnod, a holl Israel gydag ef, cynulleidfa fawr iawn, o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aifft.

9Gwnaethant hefyd yr wythfed dydd gymanfa: canys cysegriad yr allor a gadwasant hwy saith niwrnod, a’r ŵyl saith niwrnod.

10Ac yn y trydydd dydd ar hugain o’r seithfed mis y gollyngodd efe y bobl i’w pabellau, yn hyfryd ac yn llawen eu calon, am y daioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Dafydd, ac i Solomon, ac i Israel ei bobl.

11Fel hyn y gorffennodd Solomon dŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin: a’r hyn oll oedd ym mryd Solomon ei wneuthur yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn ei dŷ ei hun, a wnaeth efe yn llwyddiannus.

12A’r ARGLWYDD a ymddangosodd i Solomon liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Gwrandewais dy weddi, a mi a ddewisais y fan hon i mi yn dŷ aberth.

13Os caeaf fi y nefoedd, fel na byddo glaw, neu os gorchmynnaf i’r locustiaid ddifa y ddaear, ac os anfonaf haint ymysg fy mhobl;

14Os fy mhobl, y rhai y gelwir fy enw arnynt, a ymostyngant, ac a weddïant, ac a geisiant fy wyneb, ac a droant o’u ffyrdd drygionus: yna y gwrandawaf o’r nefoedd, ac y maddeuaf iddynt eu pechodau, ac yr iachâf eu gwlad hwynt.

15Yn awr fy llygaid a fyddant yn agored, a’m clustiau yn ymwrando â’r weddi a wneir yn y fan hon.

16Ac yn awr mi a ddetholais ac a sancteiddiais y tŷ hwn, i fod fy enw yno hyd byth: fy llygaid hefyd a’m calon a fyddant yno yn wastadol.

17A thithau, os rhodi ger fy mron i, fel y rhodiodd Dafydd dy dad, a gwneuthur yr hyn oll a orchmynnais i ti, a chadw fy neddfau a’m barnedigaethau:

18Yna y sicrhaf deyrngadair dy frenhiniaeth di, megis yr amodais â Dafydd dy dad, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr yn arglwyddiaethu yn Israel.

19Ond os dychwelwch, ac os gwrthodwch fy neddfau a’m gorchmynion a roddais ger eich bron, ac os ewch a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt hwy:

20Yna mi a’u diwreiddiaf hwynt o’m gwlad a roddais iddynt, a’r tŷ a sancteiddiais i’m henw a fwriaf allan o’m golwg, a mi a’i rhoddaf ef yn ddihareb, ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd.

21A’r tŷ yma, yr hwn sydd uchel, a wna i bawb a’r a êl heibio iddo synnu: fel y dywedo, Paham y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i’r wlad hon, ac i’r tŷ hwn?

22Yna y dywedant, Am iddynt wrthod ARGLWYDD DDUW eu tadau, yr hwn a’u dug hwy allan o wlad yr Aifft, ac am iddynt ymaflyd mewn duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt, a’u gwasanaethu hwynt: am hynny y dug efe yr holl ddrwg yma arnynt hwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help