Hosea 11 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Pan oedd Israel yn fachgen, mi a’i cerais ef, ac a elwais fy mab o’r Aifft.

2Fel y galwent arnynt, felly hwythau a aent o’u gŵydd hwy; aberthasant i Baalim, llosgasant arogl-darth i ddelwau cerfiedig.

3Myfi hefyd a ddysgais i Effraim gerdded, gan eu cymryd erbyn eu breichiau; ond ni chydnabuant mai myfi a’u meddyginiaethodd hwynt.

4Tynnais hwynt â rheffynnau dynol, â rhwymau cariad; ac oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu bochgernau hwynt; a bwriais atynt fwyd.

5Ni ddychwel efe i wlad yr Aifft; ond yr Asyriad fydd ei frenin, am iddynt wrthod troi.

6A’r cleddyf a erys ar ei ddinasoedd ef, ac a dreulia ac a ysa ei geinciau ef, am eu cynghorion eu hun.

7A’m pobl i sydd ar feddwl cilio oddi wrthyf fi; er iddynt eu galw at y Goruchaf, eto ni ddyrchafai neb ef.

8Pa fodd y’th roddaf ymaith, Effraim? y’th roddaf i fyny, Israel? pa fodd y’th wnaf fel Adma? ac y’th osodaf megis Seboim? trodd fy nghalon ynof, a’m hedifeirwch a gydgyneuwyd.

9Ni chyflawnaf angerdd fy llid: ni ddychwelaf i ddinistrio Effraim, canys DUW ydwyf fi, ac nid dyn; y Sanct yn dy ganol di; ac nid af i mewn i’r ddinas.

10Ar ôl yr ARGLWYDD yr ânt; efe a rua fel llew: pan ruo efe, yna meibion o’r gorllewin a ddychrynant.

11Dychrynant fel aderyn o’r Aifft, ac fel colomen o dir Asyria: a mi a’u gosodaf hwynt yn eu tai, medd yr ARGLWYDD.

12Effraim a’m hamgylchynodd â chelwydd, a thŷ Israel â thwyll; ond y mae Jwda eto yn llywodraethu gyda DUW, ac yn ffyddlon gyda’r saint.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help