Micha 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed yr ARGLWYDD; Cyfod, ymddadlau â’r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais.

2Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gŵyn yr ARGLWYDD; canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a’i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel.

3Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y’th flinais? tystiolaetha i’m herbyn.

4Canys mi a’th ddygais o dir yr Aifft, ac a’th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o’th flaen Moses, Aaron, a Miriam.

5Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD.

6Â pha beth y deuaf gerbron yr ARGLWYDD, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel DDUW? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethoffrymau, ac â dyniewaid?

7A fodlonir yr ARGLWYDD â miloedd o feheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd, ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid?

8Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr ARGLWYDD gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda’th DDUW?

9Llef yr ARGLWYDD a lefa ar y ddinas, a’r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a’i hordeiniodd.

10A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gŵr anwir, a’r mesur prin, peth sydd ffiaidd?

11A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus?

12Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a’i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a’u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau.

13A minnau hefyd a’th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau.

14Ti a fwytei, ac ni’th ddigonir; a’th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun: ti a ymefli, ac nid achubi; a’r hyn a achubych, a roddaf i’r cleddyf.

15Ti a heui, ond ni fedi; ti a sethri yr olewydd, ond nid ymiri ag olew; a gwin newydd, ond nid yfi win.

16Cadw yr ydys ddeddfau Omri, a holl weithredoedd Ahab, a rhodio yr ydych yn eu cynghorion: fel y’th wnawn yn anghyfannedd, a’i thrigolion i’w hwtio: am hynny y dygwch warth fy mhobl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help