Josua 12 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Dyma frenhinoedd y wlad, y rhai a drawodd meibion Israel, ac a feddianasant eu gwlad hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a’r holl wastadedd tua’r dwyrain:

2Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mro meibion Ammon;

3Ac o’r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr heli, o du y dwyrain, tua Beth-jesimoth; ac o du y deau, dan Asdoth-pisga:

4A goror Og brenin Basan, yr hwn oedd o weddill y cewri, ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei;

5Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salcha, ac yn holl Basan, hyd derfyn y Gesuriaid, a’r Maachathiaid, a hanner Gilead, terfyn Sehon brenin Hesbon.

6Moses gwas yr ARGLWYDD a meibion Israel a’u trawsant hwy: a Moses gwas yr ARGLWYDD a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.

7Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a drawodd Josua a meibion Israel o’r tu yma i’r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal-gad, yng nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir; a Josua a’i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau;

8Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y deau; yr Hethiaid, yr Amoriaid, a’r Canaaneaid, y Pheresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid:

9Brenin Jericho, yn un; brenin Ai, yr hwn oedd o ystlys Bethel, yn un;

10Brenin Jerwsalem, yn un; brenin Hebron, yn un;

11Brenin Jarmuth, yn un; brenin Lachis, yn un;

12Brenin Eglon, yn un; brenin Geser, yn un;

13Brenin Debir, yn un; brenin Geder, yn un;

14Brenin Horma, yn un; brenin Arad, yn un;

15Brenin Libna, yn un; brenin Adulam, yn un;

16Brenin Macceda, yn un; brenin Bethel, yn un;

17Brenin Tappua, yn un; brenin Heffer, yn un;

18Brenin Affec, yn un; brenin Lasaron, yn un;

19Brenin Madon, yn un; brenin Hasor, yn un;

20Brenin Simron-meron, yn un; brenin Achsaff, yn un;

21Brenin Taanach, yn un; brenin Megido, yn un;

22Brenin Cades, yn un; brenin Jocneam o Carmel, yn un;

23Brenin Dor yn ardal Dor, yn un; brenin y cenhedloedd o Gilgal, yn un;

24Brenin Tirsa, yn un: yr holl frenhinoedd oedd un ar ddeg ar hugain.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help