2 Brenhinoedd 18 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac yn y drydedd flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel, y teyrnasodd Heseceia mab Ahas brenin Jwda.

2Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Abi, merch Sachareia.

3Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Dafydd ei dad ef.

4Efe a dynnodd ymaith yr uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a faluriodd y sarff bres a wnaethai Moses; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi: ac efe a’i galwodd hi Nehustan.

5Yn ARGLWYDD DDUW Israel yr ymddiriedodd efe, ac ar ei ôl ef ni bu ei fath ef ymhlith holl frenhinoedd Jwda, nac ymysg y rhai a fuasai o’i flaen ef.

6Canys efe a lynodd wrth yr ARGLWYDD, ni throdd efe oddi ar ei ôl ef, eithr efe a gadwodd ei orchmynion ef, y rhai a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

7A’r ARGLWYDD fu gydag ef; i ba le bynnag yr aeth, efe a lwyddodd: ac efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria, ac nis gwasanaethodd ef.

8Efe a drawodd y Philistiaid hyd Gasa a’i therfynau, o dŵr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog.

9Ac yn y bedwaredd flwyddyn i’r brenin Heseceia, honno oedd y seithfed flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel, y daeth Salmaneser brenin Asyria i fyny yn erbyn Samaria, ac a warchaeodd arni hi.

10Ac ymhen y tair blynedd yr enillwyd hi; yn y chweched flwyddyn i Heseceia, honno oedd y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel, yr enillwyd Samaria.

11A brenin Asyria a gaethgludodd Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid:

12Am na wrandawsent ar lais yr ARGLWYDD eu DUW, eithr troseddu ei gyfamod ef, a’r hyn oll a orchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD, ac na wrandawent arnynt, ac nas gwnaent hwynt.

13Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i’r brenin Heseceia, y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl ddinasoedd caerog Jwda, ac a’u henillodd hwynt.

14A Heseceia brenin Jwda a anfonodd at frenin Asyria i Lachis, gan ddywedyd, Pechais, dychwel oddi wrthyf: dygaf yr hyn a roddych arnaf. A brenin Asyria a osododd ar Heseceia brenin Jwda, dri chant o dalentau arian, a deg ar hugain o dalentau aur.

15A Heseceia a roddodd iddo yr holl arian a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhrysorau tŷ y brenin.

16Yn yr amser hwnnw y torrodd Heseceia yr aur oddi ar ddrysau teml yr ARGLWYDD, ac oddi ar y colofnau a orchuddiasai Heseceia brenin Jwda, ac a’u rhoddes hwynt i frenin Asyria.

17A brenin Asyria a anfonodd Tartan, a Rabsaris, a Rabsace, o Lachis, at y brenin Heseceia, â llu dirfawr yn erbyn Jerwsalem. A hwy a aethant i fyny, ac a ddaethant i Jerwsalem. Ac wedi eu dyfod i fyny, hwy a ddaethant ac a safasant wrth bistyll y llyn uchaf, yr hwn sydd ym mhriffordd maes y pannwr.

18Ac wedi iddynt alw ar y brenin, daeth allan atynt hwy Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur.

19A Rabsace a ddywedodd wrthynt hwy, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywedodd y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr wyt yn ymddiried ynddo?

20Dywedyd yr ydwyt, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Y mae gennyf gyngor a nerth i ryfel. Ar bwy y mae dy hyder, pan wrthryfelaist i’m herbyn i?

21Wele yn awr, y mae dy hyder ar y ffon gorsen ddrylliedig hon, ar yr Aifft, yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi hi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno ef.

22Ac os dywedwch wrthyf, Yn yr ARGLWYDD ein DUW yr ydym ni yn ymddiried; onid efe yw yr hwn y tynnodd Heseceia ymaith ei uchelfeydd, a’i allorau, ac y dywedodd wrth Jwda ac wrth Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr ymgrymwch chwi yn Jerwsalem?

23Yn awr gan hynny dod wystlon, atolwg, i’m harglwydd, brenin Asyria, a rhoddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt hwy.

24A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau a gwŷr meirch?

25Ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn, i’w ddinistrio ef? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi.

26Yna y dywedodd Eliacim mab Hilceia, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg, canys yr ydym ni yn ei deall hi; ac nac ymddiddan â ni yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur.

27Ond Rabsace a ddywedodd wrthynt, Ai at dy feistr di, ac atat tithau, yr anfonodd fy meistr fi, i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur, fel y bwytaont eu tom eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi, yr anfonodd fi?

28Felly Rabsace a safodd, ac a waeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon, llefarodd hefyd, a dywedodd, Gwrandewch air y brenin mawr, brenin Asyria.

29Fel hyn y dywedodd y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi o’m llaw i.

30Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD gan waredu a’n gwared ni, ac ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria.

31Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder â mi, a deuwch allan ataf fi, ac yna bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun:

32Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olew olewydd a mêl, fel y byddoch fyw, ac na byddoch feirw: ac na wrandewch ar Heseceia, pan hudo efe chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a’n gwared ni.

33A lwyr waredodd yr un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria?

34Mae duwiau Hamath ac Arpad? mae duwiau Seffarfaim, Hena, ac Ifa? a achubasant hwy Samaria o’m llaw i?

35Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr ARGLWYDD Jerwsalem o’m llaw i?

36Eithr y bobl a dawsant, ac nid atebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef.

37Yna y daeth Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, a’u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help