1Barn fi, O DDUW, a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn.
2Canys ti yw DUW fy nerth: paham y’m bwri ymaith? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn?
3Anfon dy oleuni a’th wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll.
4Yna yr af at allor DUW, at DDUW hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O DDUW, fy NUW.
5Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn NUW; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m DUW.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
