1Trugarha wrthyf, O DDUW: canys dyn a’m llyncai: beunydd, gan ymladd, y’m gorthryma.
2Beunydd y’m llyncai fy ngelynion: canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn, O DDUW Goruchaf.
3Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddiriedaf ynot ti.
4Yn NUW y clodforaf ei air, yn NUW y gobeithiaf; nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.
5Beunydd y camgymerant fy ngeiriau: eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg.
6Hwy a ymgasglant, a lechant, ac a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid.
7A ddihangant hwy trwy anwiredd? disgyn y bobloedd hyn, O DDUW, yn dy lidiowgrwydd.
8Ti a gyfrifaist fy symudiadau: dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di?
9Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod DUW gyda mi.
10Yn NUW y moliannaf ei air: yn yr ARGLWYDD y moliannaf ei air.
11Yn NUW yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.
12Arnaf fi, O DDUW, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.
13Canys gwaredaist fy enaid rhag angau: oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf gerbron DUW yng ngoleuni y rhai byw?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
