Deuteronomium 23 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Na ddeued neb wedi ysigo ei eirin, na disbaidd, i gynulleidfa yr ARGLWYDD.

2Na ddeued basterdyn i gynulleidfa yr ARGLWYDD; y ddegfed genhedlaeth iddo hefyd ni chaiff ddyfod i gynulleidfa yr ARGLWYDD.

3Na ddeled Ammoniad na Moabiad i gynulleidfa yr ARGLWYDD; y ddegfed genhedlaeth hefyd ohonynt na ddeued i gynulleidfa yr ARGLWYDD byth:

4Oblegid ni chyfarfuant â chwi â bara ac â dwfr yn y ffordd, wrth eich dyfod o’r Aifft; ac o achos cyflogi ohonynt i’th erbyn Balaam mab Beor o Pethor ym Mesopotamia, i’th felltithio di.

5Eto yr ARGLWYDD dy DDUW ni fynnodd wrando ar Balaam: ond trodd yr ARGLWYDD dy DDUW y felltith yn fendith i ti; canys hoffodd yr ARGLWYDD dy DDUW dydi.

6Na chais eu heddwch hwynt, na’u daioni hwynt, dy holl ddyddiau byth.

7Na ffieiddia Edomiad; canys dy frawd yw: na ffieiddia Eifftiad; oherwydd dieithr fuost yn ei wlad ef.

8Deued ohonynt i gynulleidfa yr ARGLWYDD y drydedd genhedlaeth o’r meibion a genhedlir iddynt.

9Pan êl y llu allan yn erbyn dy elynion, yna ymgadw rhag pob peth drwg.

10O bydd un ohonot heb fod yn lân, oherwydd damwain nos; eled allan o’r gwersyll; na ddeued o fewn y gwersyll.

11Ac ym min yr hwyr ymolched mewn dwfr: yna wedi machludo’r haul, deued i fewn y gwersyll.

12A bydded lle i ti o’r tu allan i’r gwersyll; ac yno yr ei di allan.

13A bydded gennyt rawffon ymysg dy arfau; a bydded pan eisteddych allan, gloddio ohonot â hi, a thro a chuddia yr hyn a ddaeth oddi wrthyt.

14Oherwydd bod yr ARGLWYDD dy DDUW yn rhodio ymhlith dy wersyllau, i’th waredu, ac i roddi dy elynion o’th flaen di; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot ti ddim brynti, a throi oddi wrthyt.

15Na ddyro at ei feistr was a ddihangodd atat oddi wrth ei feistr.

16Gyda thi y trig yn dy fysg, yn y fan a ddewiso, yn un o’th byrth di, lle byddo da ganddo; ac na chystuddia ef.

17Na fydded putain o ferched Israel, ac na fydded puteiniwr o feibion Israel.

18Na ddwg wobr putain, na gwerth ci, i dŷ yr ARGLWYDD dy DDUW, mewn un adduned: canys y maent ill dau yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy DDUW.

19Na chymer ocraeth gan dy frawd; ocraeth arian, ocraeth bwyd, ocraeth dim y cymerir ocraeth amdano.

20Gan estron y cymeri ocraeth; ond na chymer ocraeth gan dy frawd: fel y bendithio yr ARGLWYDD dy DDUW di ym mhob peth y rhoddych dy law arno, yn y tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu.

21Pan addunedych adduned i’r ARGLWYDD dy DDUW, nac oeda ei thalu: canys yr ARGLWYDD dy DDUW gan ofyn a’i gofyn gennyt; a byddai yn bechod ynot.

22Ond os peidi ag addunedu, ni bydd pechod ynot.

23Cadw a gwna yr hyn a ddaeth allan o’th wefusau; megis yr addunedaist i’r ARGLWYDD dy DDUW offrwm gwirfodd, yr hwn a draethaist â’th enau.

24Pan ddelych i winllan dy gymydog, yna bwyta o rawnwin dy wala, wrth dy feddwl; ond na ddod yn dy lestr yr un.

25Pan ddelych i ŷd dy gymydog, yna y cei dynnu y tywysennau â’th law; ond ni chei osod cryman yn ŷd dy gymydog.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help