Y Salmau 104 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 104

1Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD. O ARGLWYDD fy NUW, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch.

2Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen.

3Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt.

4Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a’i weinidogion yn dân fflamllyd.

5Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini, fel na symudo byth yn dragywydd.

6Toaist hi â’r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd.

7Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith.

8Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant, i’r lle a seiliaist iddynt.

9Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear.

10Yr hwn a yrr y ffynhonnau i’r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau.

11Diodant holl fwystfilod y maes: yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched.

12Adar y nefoedd a drigant gerllaw iddynt, y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau.

13Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o’i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd.

14Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o’r ddaear;

15A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn.

16Prennau yr ARGLWYDD sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe;

17Lle y nytha yr adar: y ffynidwydd yw tŷ y ciconia.

18Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i’r geifr; a’r creigiau i’r cwningod.

19Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad.

20Gwnei dywyllwch, a nos fydd: ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed.

21Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan DDUW.

22Pan godo haul, ymgasglant, a gorweddant yn eu llochesau.

23Dyn a â allan i’w waith, ac i’w orchwyl hyd yr hwyr.

24Mor lluosog yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth.

25Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion.

26Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo.

27Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd.

28A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni.

29Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch.

30Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear.

31Gogoniant yr ARGLWYDD fydd yn dragywydd: yr ARGLWYDD a lawenycha yn ei weithredoedd.

32Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant.

33Canaf i’r ARGLWYDD tra fyddwyf fyw: canaf i’m DUW tra fyddwyf.

34Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD.

35Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help