Y Salmau 76 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 76I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân Asaff.

1Hynod yw DUW yn Jwda; mawr yw ei enw ef yn Israel.

2Ei babell hefyd sydd yn Salem, a’i drigfa yn Seion.

3Yna y torrodd efe saethau y bwa, y darian, y cleddyf hefyd, a’r frwydr. Sela.

4Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail.

5Ysbeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hun: a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo.

6Gan dy gerydd di, O DDUW Jacob, y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu.

7Tydi, tydi, wyt ofnadwy; a phwy a saif o’th flaen pan enynno dy ddicter?

8O’r nefoedd y peraist glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear,

9Pan gyfododd DUW i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela.

10Diau cynddaredd dyn a’th folianna di: gweddill cynddaredd a waherddi.

11Addunedwch, a thelwch i’r ARGLWYDD eich DUW: y rhai oll ydynt o’i amgylch ef, dygant anrheg i’r ofnadwy.

12Efe a dyr ymaith ysbryd tywysogion: y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help