Deuteronomium 18 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ni bydd i’r offeiriaid, i’r Lefiaid, i holl lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth ynghyd ag Israel: ebyrth tanllyd yr ARGLWYDD, a’i etifeddiaeth ef, a fwytânt hwy.

2Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ymhlith eu brodyr: yr ARGLWYDD yw eu hetifeddiaeth hwy, megis ag y dywedodd wrthynt.

3A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant aberth, pa un bynnag ai eidion ai dafad; rhoddant i’r offeiriad yr ysgwyddog a’r ddwy ên, a’r boten.

4Blaenffrwyth dy ŷd, dy win, a’th olew, a blaenffrwyth cnaif dy ddefaid, a roddi iddo ef.

5Canys dewisodd yr ARGLWYDD dy DDUW ef o’th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw yr ARGLWYDD, efe a’i feibion yn dragywydd.

6A phan ddelo Lefiad o un o’th byrth di yn holl Israel, lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod â holl ddymuniad ei galon i’r lle a ddewiso yr ARGLWYDD;

7Yna gwasanaethed efe yn enw yr ARGLWYDD ei DDUW, megis ei holl frodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno gerbron yr ARGLWYDD.

8Rhan am ran a fwytânt, heblaw gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau.

9Pan elych di i’r tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd hynny.

10Na chaffer ynot a wnelo i’w fab, neu i’w ferch, fyned trwy y tân; neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol,

11Na swynwr swynion, nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac a ymofynno â’r meirw:

12Oherwydd ffieidd-dra gan yr ARGLWYDD yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd-dra hyn y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu gyrru hwynt allan o’th flaen di.

13Bydd berffaith gyda’r ARGLWYDD dy DDUW.

14Canys y cenhedloedd hyn, y rhai a feddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond amdanat ti, nid felly y caniataodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.

15Yr ARGLWYDD dy DDUW a gyfyd i ti, o’th blith dy hun, o’th frodyr dy hun, Broffwyd megis finnau; arno ef y gwrandewch;

16Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr ARGLWYDD dy DDUW yn Horeb, yn nydd y gymanfa, gan ddywedyd, Na chlywyf mwyach lais yr ARGLWYDD fy NUW, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw.

17A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant.

18Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo.

19A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a’i gofynnaf ganddo.

20Y proffwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth.

21Ac os dywedi yn dy galon, Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr ARGLWYDD?

22Yr hyn a lefaro’r proffwyd hwnnw yn enw yr ARGLWYDD, a’r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr ARGLWYDD; y proffwyd a’i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help