Datguddiad 7 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac ar ôl y pethau hyn, mi a welais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai’r gwynt ar y ddaear, nac ar y môr, nac ar un pren.

2Ac mi a welais angel arall yn dyfod i fyny oddi wrth godiad haul, a sêl y Duw byw ganddo. Ac efe a lefodd â llef uchel ar y pedwar angel, i’r rhai y rhoddasid gallu i ddrygu’r ddaear a’r môr,

3Gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaear, na’r môr, na’r prennau, nes darfod i ni selio gwasanaethwyr ein Duw ni yn eu talcennau.

4Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd: yr oedd wedi eu selio gant a phedair a deugain o filoedd o holl lwythau meibion Israel.

5O lwyth Jwda yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Reuben yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Gad yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.

6O lwyth Aser yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Neffthali yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Manasses yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.

7O lwyth Simeon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Lefi yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Issachar yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.

8O lwyth Sabulon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Joseff yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Benjamin yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.

9Wedi hyn mi a edrychais; ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allai neb ei rhifo, o bob cenedl, a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd, yn sefyll gerbron yr orseddfainc, a cherbron yr Oen, wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion, a phalmwydd yn eu dwylo;

10Ac yn llefain â llef uchel, gan ddywedyd, Iachawdwriaeth i’n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i’r Oen.

11A’r holl angylion a safasant o amgylch yr orseddfainc, a’r henuriaid, a’r pedwar anifail, ac a syrthiasant gerbron yr orseddfainc ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,

12Gan ddywedyd, Amen: Y fendith, a’r gogoniant, a’r doethineb, a’r diolch, a’r anrhydedd, a’r gallu, a’r nerth, a fyddo i’n Duw ni yn oes oesoedd. Amen.

13Ac un o’r henuriaid a atebodd, gan ddywedyd wrthyf, Pwy ydyw’r rhai hyn sydd wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion? ac o ba le y daethant?

14Ac mi a ddywedais wrtho ef, Arglwydd, ti a wyddost. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw’r rhai a ddaethant allan o’r cystudd mawr, ac a olchasant eu gynau, ac a’u canasant hwy yng ngwaed yr Oen.

15Oherwydd hynny y maent gerbron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml: a’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc a drig yn eu plith hwynt.

16Ni fydd arnynt na newyn mwyach, na syched mwyach; ac ni ddisgyn arnynt na’r haul, na dim gwres.

17Oblegid yr Oen, yr hwn sydd yng nghanol yr orseddfainc, a’u bugeilia hwynt, ac a’u harwain hwynt at ffynhonnau bywiol o ddyfroedd: a Duw a sych ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help