1Wrth DDUW yn unig y disgwyl fy enaid: ohono ef y daw fy iachawdwriaeth.
2Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth, a’m hamddiffyn; ni’m mawr ysgogir.
3Pa hyd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gŵr? lleddir chwi oll; a byddwch fel magwyr ogwyddedig, neu bared ar ei ogwydd.
4Ymgyngorasant yn unig i’w fwrw ef i lawr o’i fawredd; hoffasant gelwydd: â’u geneuau y bendithiant, ond o’u mewn y melltithiant. Sela.
5O fy enaid, disgwyl wrth DDUW yn unig: canys ynddo ef y mae fy ngobaith.
6Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth: efe yw fy amddiffynfa: ni’m hysgogir.
7Yn NUW y mae fy iachawdwriaeth a’m gogoniant: craig fy nghadernid, a’m noddfa, sydd yn NUW.
8Gobeithiwch ynddo ef bob amser; O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef: DUW sydd noddfa i ni. Sela.
9Gwagedd yn ddiau yw meibion dynion, geudeb yw meibion gwŷr: i’w gosod yn y clorian, ysgafnach ydynt hwy i gyd na gwegi.
10Nac ymddiriedwch mewn trawster, ac mewn trais na fyddwch ofer: os cynydda golud, na roddwch eich calon arno.
11Unwaith y dywedodd DUW, clywais hynny ddwywaith; mai eiddo DUW yw cadernid.
12Trugaredd hefyd sydd eiddot ti, O ARGLWYDD: canys ti a deli i bob dyn yn ôl ei weithred.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
