1Wrth hyn hefyd y crŷn fy nghalon, ac y dychlama hi o’i lle.
2Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o’i enau ef.
3Efe a’i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a’i fellt hyd eithafoedd y ddaear.
4Sŵn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef.
5DUW a wna daranau â’i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni.
6Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef.
7Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef.
8Yna yr â y bwystfil i’w loches, ac y trig yn ei le.
9O’r deau y daw corwynt; ac oerni oddi wrth y gogledd.
10Â’i wynt y rhydd DUW rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir.
11Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau.
12Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear.
13Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i’w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod.
14Gwrando hyn, Job; saf, ac ystyria ryfeddodau DUW.
15A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd DUW hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu?
16A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith-gwbl o wybodaeth?
17Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel â’r deheuwynt?
18A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig?
19Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho: ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch.
20A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed neb, diau y llyncir ef.
21Ac yn awr, ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau: ond myned y mae y gwynt, a’u puro hwynt.
22O’r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn NUW ogoniant mwy ofnadwy.
23Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo’i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe.
24Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
