Sechareia 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Hefyd mi a droais, ac a ddyrchefais fy llygaid, ac a edrychais; ac wele bedwar o gerbydau yn dyfod allan oddi rhwng dau fynydd: a’r mynyddoedd oedd fynyddoedd o bres.

2Yn y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, ac yn yr ail gerbyd meirch duon,

3Ac yn y trydydd cerbyd meirch gwynion, ac yn y pedwerydd cerbyd meirch brithion a gwineuon.

4Yna yr atebais, ac y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd?

5A’r angel a atebodd ac a ddywedodd, Dyma bedwar ysbryd y nefoedd, y rhai sydd yn myned allan o sefyll gerbron ARGLWYDD yr holl ddaear.

6Y meirch duon sydd ynddo a ânt allan i dir y gogledd; a’r gwynion a ânt allan ar eu hôl hwythau; a’r brithion a ânt allan i’r deheudir.

7A’r gwineuon a aethant allan, ac a geisiasant fyned i gyniwair trwy y ddaear: ac efe a ddywedodd, Ewch, cyniweirwch trwy y ddaear. Felly hwy a gyniweirasant trwy y ddaear.

8Yna efe a waeddodd arnaf, ac a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Edrych, y rhai a aethant i dir y gogledd a lonyddasant fy ysbryd yn nhir y gogledd.

9A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

10Cymer gan y gaethglud, gan Heldai, gan Tobeia, a chan Jedaia, y rhai a ddaethant o Babilon, a thyred y dydd hwnnw a dos i dŷ Joseia mab Seffaneia:

11Yna cymer arian ac aur, a gwna goronau, a gosod ar ben Josua mab Josedec yr archoffeiriad;

12A llefara wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Wele y gŵr a’i enw BLAGURYN: o’i le hefyd y blagura, ac efe a adeilada deml yr ARGLWYDD:

13Ie, teml yr ARGLWYDD a adeilada efe; ac efe a ddwg y gogoniant, ac a eistedd, ac a lywodraetha ar ei frenhinfainc; bydd yn offeiriad hefyd ar ei frenhinfainc: a chyngor hedd a fydd rhyngddynt ill dau.

14A’r coronau fydd i Helem, ac i Tobeia, ac i Jedaia, ac i Hen mab Seffaneia, er coffadwriaeth yn nheml yr ARGLWYDD.

15A’r pellenigion a ddeuant, ac a adeiladant yn nheml yr ARGLWYDD, a chewch wybod mai ARGLWYDD y lluoedd a’m hanfonodd atoch. A hyn a fydd, os gan wrando y gwrandewch ar lais yr ARGLWYDD DDUW.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help