Actau’r Apostolion 27 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A phan gytunwyd forio ohonom ymaith i’r Ital, hwy a roesant Paul, a rhyw garcharorion eraill, at ganwriad a’i enw Jwlius, o fyddin Augustus.

2Ac wedi dringo i long o Adramyttium, ar fedr hwylio i dueddau Asia, ni a aethom allan o’r porthladd; a chyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica.

3A thrannoeth ni a ddygwyd i waered i Sidon. A Jwlius a ymddug yn garedigol tuag at Paul, ac a roddes iddo gennad i fyned at ei gyfeillion i gael ymgeledd.

4Ac wedi myned oddi yno, ni a hwyliasom dan Cyprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus.

5Ac wedi hwylio ohonom dros y môr sydd gerllaw Cilicia a Phamffylia, ni a ddaethom i Myra, dinas yn Lycia.

6Ac yno y canwriad, wedi cael llong o Alexandria yn hwylio i’r Ital, a’n gosododd ni ynddi.

7Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau, a dyfod yn brin ar gyfer Cnidus, am na adawai’r gwynt i ni, ni a hwyliasom islaw Creta, ar gyfer Salmone.

8Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddi, ni a ddaethom i ryw le a elwir, Y porthladdoedd prydferth, yr hwn yr oedd dinas Lasea yn agos iddo.

9Ac wedi i dalm o amser fyned heibio, a bod morio weithian yn enbyd, oherwydd hefyd ddarfod yr ympryd weithian, Paul a gynghorodd,

10Gan ddywedyd wrthynt, Ha wŷr, yr wyf yn gweled y bydd yr hynt hon ynghyd â sarhad a cholled fawr, nid yn unig am y llwyth a’r llong, eithr am ein heinioes ni hefyd.

11Eithr y canwriad a gredodd i lywydd ac i berchen y llong, yn fwy nag i’r pethau a ddywedid gan Paul.

12A chan fod y porthladd yn anghyfleus i aeafu, y rhan fwyaf a roesant gyngor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice, i aeafu yno; yr hwn sydd borthladd yn Creta, ar gyfer y deau-orllewin, a’r gogledd-orllewin.

13A phan chwythodd y deheuwynt yn araf, hwynt-hwy yn tybied cael eu meddwl, gan godi hwyliau, a foriasant heibio yn agos i Creta.

14Ond cyn nemor cyfododd yn ei herbyn hi wynt tymhestlog, yr hwn a elwir Euroclydon.

15A phan gipiwyd y llong, ac heb allu gwrthwynebu’r gwynt, ni a ymroesom, ac a ddygwyd gyda’r gwynt.

16Ac wedi i ni redeg goris ynys fechan a elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bad:

17Yr hwn a godasant i fyny, ac a wnaethant gynorthwyon, gan wregysu’r llong oddi dani: a hwy yn ofni rhag syrthio ar sugndraeth, wedi gostwng yr hwyl, a ddygwyd felly.

18A ni’n flin iawn arnom gan y dymestl, drannoeth hwy a ysgafnhasant y llong;

19A’r trydydd dydd bwriasom â’n dwylo’n hunain daclau’r llong allan.

20A phan nad oedd na haul na sêr yn ymddangos dros lawer o ddyddiau, a thymestl nid bychan yn pwyso arnom, pob gobaith y byddem cadwedig a ddygwyd oddi arnom o hynny allan.

21Ac wedi bod hir ddirwest, yna y safodd Paul yn eu canol hwy, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a ddylasech wrando arnaf fi, a bod heb ymado o Creta, ac ennill y sarhad yma a’r golled.

22Ac yr awron yr wyf yn eich cynghori chwi i fod yn gysurus: canys ni bydd colled am einioes un ohonoch, ond am y llong yn unig.

23Canys safodd yn fy ymyl y nos hon angel Duw, yr hwn a’m piau, a’r hwn yr wyf yn ei addoli,

24Gan ddywedyd, Nac ofna, Paul; rhaid i ti sefyll gerbron Cesar: ac wele, rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyda thi.

25Am hynny, ha wŷr, cymerwch gysur: canys yr wyf fi yn credu i Dduw, mai felly y bydd, yn ôl y modd y dywedwyd i mi.

26Ond mae yn rhaid ein bwrw ni i ryw ynys.

27Ac wedi dyfod y bedwaredd nos ar ddeg, fe a ddigwyddodd, a ni yn morio yn Adria, ynghylch hanner nos, dybied o’r morwyr eu bod yn nesáu i ryw wlad;

28Ac wedi iddynt blymio, hwy a’i cawsant yn ugain gwryd: ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a’i cawsant yn bymtheg gwryd.

29Ac a hwy’n ofni rhag i ni syrthio ar leoedd geirwon, wedi iddynt fwrw pedair angor allan o’r llyw, hwy a ddeisyfasant ei myned hi yn ddydd.

30Ac fel yr oedd y llongwyr yn ceisio ffoi allan o’r llong, ac wedi gollwng y bad i waered i’r môr, yn rhith bod ar fedr bwrw angorau o’r pen blaen i’r llong,

31Dywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr, Onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig.

32Yna y torrodd y milwyr raffau’r bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith.

33A thra ydoedd hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymryd lluniaeth, gan ddywedyd, Heddiw yw y pedwerydd dydd ar ddeg yr ydych chwi yn disgwyl, ac yn aros ar eich cythlwng, heb gymryd dim.

34Oherwydd paham yr ydwyf yn dymuno arnoch gymryd lluniaeth; oblegid hyn sydd er iechyd i chwi: canys blewyn i’r un ohonoch ni syrth oddi ar ei ben.

35Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a gymerodd fara, ac a ddiolchodd i Dduw yn eu gŵydd hwynt oll, ac a’i torrodd, ac a ddechreuodd fwyta.

36Ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gysurol; a hwy a gymerasant luniaeth hefyd.

37Ac yr oeddem yn y llong i gyd, yn ddau cant ac un ar bymtheg a thrigain o eneidiau.

38Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw’r gwenith allan i’r môr.

39A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glan iddi; i’r hon y cyngorasant, os gallent, wthio’r llong iddi.

40Ac wedi iddynt godi’r angorau, hwy a ymollyngasant i’r môr, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i’r gwynt, ac a geisiasant y lan.

41Ac wedi i ni syrthio ar le deuforgyfarfod, hwy a wthiasant y llong: a’r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddiysgog; eithr y pen ôl a ymddatododd gan nerth y tonnau.

42A chyngor y milwyr oedd, ladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio allan, a dianc ymaith.

43Ond y canwriad, yn ewyllysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan; ac a archodd i bawb a’r a fedrai nofio, ymfwrw yn gyntaf i’r môr, a myned allan i’r tir:

44Ac i’r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o’r llong. Ac felly y digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help