Caniad Solomon 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1O na bait megis brawd i mi, yn sugno bronnau fy mam! pan y’th gawn allan, cusanwn di; eto ni’m dirmygid.

2Arweiniwn, a dygwn di i dŷ fy mam, yr hon a’m dysgai: parwn i ti yfed gwin llysieuog o sugn fy mhomgranadau.

3Ei law aswy fyddai dan fy mhen, a’i law ddeau a’m cofleidiai.

4Tynghedaf chwi, ferched Jerwsalem, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.

5Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd? Dan yr afallen y’th gyfodais: yno y’th esgorodd dy fam; yno y’th esgorodd yr hon a’th ymddûg.

6Gosod fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich: canys cariad sydd gryf fel angau; eiddigedd sydd greulon fel y bedd: ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt.

7Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dŷ am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hynny.

8Y mae i ni chwaer fechan, ac nid oes fronnau iddi: beth a wnawn i’n chwaer y dydd y dyweder amdani?

9Os caer yw hi, ni a adeiladwn arni balas arian; ac os drws yw hi, ni a’i caewn hi ag ystyllod cedrwydd.

10Caer ydwyf fi, a’m bronnau fel tyrau: yna yr oeddwn yn ei olwg ef megis wedi cael tangnefedd.

11Yr oedd gwinllan i Solomon yn Baal-hamon: efe a osododd y winllan i warcheidwaid; pob un a ddygai am ei ffrwyth fil o ddarnau arian.

12Fy ngwinllan sydd ger fy mron: mil a roddir i ti, Solomon, a dau cant i’r rhai a gadwant ei ffrwyth hi.

13O yr hon a drigi yn y gerddi, y cyfeillion a wrandawant ar dy lais: pâr i mi ei glywed.

14Brysia, fy anwylyd, a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y perlysiau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help