Y Salmau 91 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 91

1Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog.

2Dywedaf am yr ARGLWYDD, Fy noddfa a’m hamddiffynfa ydyw: fy NUW; ynddo yr ymddiriedaf.

3Canys efe a’th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon.

4A’i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti.

5Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd:

6Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd.

7Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw: ond ni ddaw yn agos atat ti.

8Yn unig ti a ganfyddi â’th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol.

9Am i ti wneuthur yr ARGLWYDD fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti;

10Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i’th babell.

11Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.

12Ar eu dwylo y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg.

13Ar y llew a’r asb y cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri.

14Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw.

15Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef.

16Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help