Y Salmau 31 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 31I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

1Ynot ti, ARGLWYDD, yr ymddiriedais: na’m gwaradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfiawnder.

2Gogwydda dy glust ataf; gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw.

3Canys fy nghraig a’m castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi.

4Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth.

5I’th law y gorchmynnaf fy ysbryd: gwaredaist fi, O ARGLWYDD DDUW y gwirionedd.

6Caseais y rhai sydd yn dal ar ofer wagedd: minnau a obeithiaf yn yr ARGLWYDD.

7Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd: canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau;

8Ac ni warchaeaist fi yn llaw y gelyn; ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder.

9Trugarha wrthyf, ARGLWYDD; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m bol.

10Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a’m hesgyrn a bydrasant.

11Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf.

12Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig.

13Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth: pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio.

14Ond mi a obeithiais ynot ti, ARGLWYDD: dywedais, Fy NUW ydwyt.

15Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr.

16Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd.

17 ARGLWYDD, na waradwydder fi; canys gelwais arnat: gwaradwydder yr annuwiolion, torrer hwynt i’r bedd.

18Gosteger y gwefusau celwyddog, y rhai a ddywedant yn galed, trwy falchder a diystyrwch, yn erbyn y cyfiawn.

19Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i’r sawl a’th ofnant; ac a wnaethost i’r rhai a ymddiriedant ynot, gerbron meibion dynion!

20Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau.

21Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD: canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn.

22Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst, Fe’m bwriwyd allan o’th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddïau pan lefais arnat.

23Cerwch yr ARGLWYDD, ei holl saint ef: yr ARGLWYDD a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i’r neb a wna falchder.

24Ymwrolwch, ac efe a gryfha eich calon, chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help