1 Cronicl 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A meibion Reuben, cyntaf-anedig Israel, (canys efe oedd gyntaf-anedig, ond am iddo halogi gwely ei dad, rhoddwyd ei enedigaeth-fraint ef i feibion Joseff, mab Israel; ac ni chyfrifir ei achau ef yn ôl yr enedigaeth-fraint:

2Canys Jwda a ragorodd ar ei frodyr, ac ohono ef y daeth blaenor: a’r enedigaeth-fraint a roddwyd i Joseff.)

3Meibion Reuben cyntaf-anedig Israel oedd, Hanoch, a Phalu, Hesron, a Charmi.

4Meibion Joel; Semaia ei fab ef, Gog ei fab yntau, Simei ei fab yntau,

5Micha ei fab yntau, Reaia ei fab yntau, Baal ei fab yntau,

6Beera ei fab yntau, yr hwn a gaethgludodd Tilgath-pilneser brenin Asyria: hwn ydoedd dywysog i’r Reubeniaid.

7A’i frodyr ef yn eu teuluoedd, wrth gymryd eu hachau yn eu cenedlaethau: y pennaf oedd Jeiel, a Sechareia,

8A Bela mab Asas, fab Sema, fab Joel, yr hwn a gyfanheddodd yn Aroer, a hyd at Nebo, a Baalmeon.

9Ac o du y dwyrain y preswyliodd efe, hyd y lle yr eler i’r anialwch, oddi wrth afon Ewffrates: canys eu hanifeiliaid hwynt a amlhasai yng ngwlad Gilead.

10Ac yn nyddiau Saul y gwnaethant hwy ryfel yn erbyn yr Hagariaid, y rhai a syrthiasant trwy eu dwylo hwynt; a thrigasant yn eu pebyll hwynt, trwy holl du dwyrain Gilead.

11A meibion Gad a drigasant gyferbyn â hwynt yng ngwlad Basan, hyd at Salcha:

12Joel y pennaf, a Saffam yr ail, a Jaanai, a Saffat, yn Basan.

13A’u brodyr hwynt o dŷ eu tadau oedd, Michael, a Mesulam, a Seba, a Jorai, a Jacan, a Sïa, a Heber, saith.

14Dyma feibion Abihail fab Huri, fab Jaroa, fab Gilead, fab Michael, fab Jesisai, fab Jahdo, fab Bus;

15Ahi mab Abdiel, fab Guni, y pennaf o dŷ eu tadau.

16A hwy a drigasant yn Gilead yn Basan, ac yn ei threfydd, ac yn holl bentrefi Saron, wrth eu terfynau.

17Y rhai hyn oll a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn nyddiau Jotham brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam brenin Israel.

18Meibion Reuben, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, o wŷr nerthol, dynion yn dwyn tarian a chleddyf, ac yn tynnu bwa, ac wedi eu dysgu i ryfel, oedd bedair mil a deugain a saith cant a thrigain, yn myned allan i ryfel.

19A hwy a wnaethant ryfel yn erbyn yr Hagariaid, a Jetur, a Neffis, a Nodab.

20A chynorthwywyd hwynt yn erbyn y rhai hynny, a rhoddwyd yr Hagariaid i’w dwylo hwynt, a chwbl a’r a ydoedd gyda hwynt: canys llefasant ar DDUW yn y rhyfel, ac efe a wrandawodd arnynt, oherwydd iddynt obeithio ynddo.

21A hwy a gaethgludasant eu hanifeiliaid hwynt; o’u camelod hwynt ddengmil a deugain, ac o ddefaid ddeucant a deg a deugain o filoedd, ac o asynnod ddwy fil, ac o ddynion gan mil.

22Canys llawer yn archolledig a fuant feirw, am fod y rhyfel oddi wrth DDUW; a hwy a drigasant yn eu lle hwynt hyd y caethiwed.

23A meibion hanner llwyth Manasse a drigasant yn y tir: o Basan hyd Baal-hermon, a Senir, a mynydd Hermon, yr aethant hwy yn aml.

24Y rhai hyn hefyd oedd bennau tŷ eu tadau, sef Effer, ac Isi, ac Eliel, ac Asriel, a Jeremeia, a Hodafia, a Jadiel, gwŷr cedyrn o nerth, gwŷr enwog, a phennau tŷ eu tadau.

25A hwy a droseddasant yn erbyn DUW eu tadau, ac a buteiniasant ar ôl duwiau pobl y wlad, y rhai a ddinistriasai DUW o’u blaen hwynt.

26A DUW Israel a anogodd ysbryd Pul brenin Asyria, ac ysbryd Tilgath-pilneser brenin Asyria, ac a’u caethgludodd hwynt, sef y Reubeniaid, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ac a’u dug hwynt i Hala, a Habor, a Hara, ac i afon Gosan, hyd y dydd hwn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help