Eseia 50 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pa le y mae llythyr ysgar eich mam, trwy yr hwn y gollyngais hi ymaith? neu pwy o’m dyledwyr y gwerthais chwi iddo? Wele, am eich anwireddau yr ymwerthasoch, ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam.

2Paham, pan ddeuthum, nad oedd neb i’m derbyn? pan elwais, nad atebodd neb? Gan gwtogi a gwtogodd fy llaw, fel na allai ymwared? neu onid oes ynof nerth i achub? wele, â’m cerydd y sychaf y môr, gwneuthum yr afonydd yn ddiffeithwch: eu pysgod a ddrewant o eisiau dwfr, ac a fyddant feirw o syched.

3Gwisgaf y nefoedd â thywyllwch, a gosodaf sachliain yn do iddynt.

4Yr Arglwydd DDUW a roddes i mi dafod y dysgedig, i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol: deffry fi bob bore, deffry i mi glust i glywed fel y dysgedig.

5Yr Arglwydd DDUW a agorodd fy nghlust, a minnau ni wrthwynebais, ac ni chiliais yn fy ôl.

6Fy nghorff a roddais i’r curwyr, a’m cernau i’r rhai a dynnai y blew: ni chuddiais fy wyneb oddi wrth waradwydd a phoeredd.

7Oherwydd yr Arglwydd DDUW a’m cymorth; am hynny ni’m cywilyddir: am hynny gosodais fy wyneb fel callestr, a gwn na’m cywilyddir.

8Agos yw yr hwn a’m cyfiawnha; pwy a ymryson â mi? safwn ynghyd: pwy yw fy ngwrthwynebwr? nesaed ataf.

9Wele, yr Arglwydd DDUW a’m cynorthwya; pwy yw yr hwn a’m bwrw yn euog? wele, hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn; y gwyfyn a’u hysa hwynt.

10Pwy yn eich mysg sydd yn ofni yr ARGLWYDD, yn gwrando ar lais ei was ef, yn rhodio mewn tywyllwch, ac heb lewyrch iddo? gobeithied yn enw yr ARGLWYDD, ac ymddirieded yn ei DDUW.

11Wele, chwi oll y rhai ydych yn cynnau tân, ac yn eich amgylchu eich hunain â gwreichion; rhodiwch wrth lewyrch eich tân, ac wrth y gwreichion a gyneuasoch. O’m llaw i y bydd hyn i chwi; mewn gofid y gorweddwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help