Effesiaid 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Er mwyn hyn, myfi Paul, carcharor Iesu Grist trosoch chwi’r Cenhedloedd;

2Os clywsoch am oruchwyliaeth gras Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi:

3Mai trwy ddatguddiad yr hysbysodd efe i mi y dirgelwch, (megis yr ysgrifennais o’r blaen ar ychydig eiriau,

4Wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, wybod fy neall i yn nirgelwch Crist,)

5Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i feibion dynion, fel y mae yr awron wedi ei ddatguddio i’w sanctaidd apostolion a’i broffwydi trwy’r Ysbryd;

6Y byddai’r Cenhedloedd yn gyd-etifeddion, ac yn gyd-gorff, ac yn gyd-gyfranogion o’i addewid ef yng Nghrist, trwy’r efengyl:

7I’r hon y’m gwnaed i yn weinidog, yn ôl rhodd gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, yn ôl grymus weithrediad ei allu ef.

8I mi, y llai na’r lleiaf o’r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu ymysg y Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist;

9Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist:

10Fel y byddai yr awron yn hysbys i’r tywysogaethau ac i’r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy’r eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw,

11Yn ôl yr arfaeth dragwyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni:

12Yn yr hwn y mae i ni hyfdra, a dyfodfa mewn hyder, trwy ei ffydd ef.

13Oherwydd paham yr wyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi.

14Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist,

15O’r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear,

16Ar roddi ohono ef i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef, yn y dyn oddi mewn;

17Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi;

18Fel y galloch, wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda’r holl saint, beth yw’r lled, a’r hyd, a’r dyfnder, a’r uchder;

19A gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y’ch cyflawner â holl gyflawnder Duw.

20Ond i’r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni,

21Iddo ef y byddo’r gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu, dros yr holl genedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help