1Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom, pan feddyliasom am Seion.
2Ar yr helyg o’u mewn y crogasom ein telynau.
3Canys yno y gofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân; a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion.
4Pa fodd y canwn gerdd yr ARGLWYDD mewn gwlad ddieithr?
5Os anghofiaf di, Jerwsalem, anghofied fy neheulaw ganu.
6Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau, oni chofiaf di; oni chodaf Jerwsalem goruwch fy llawenydd pennaf.
7Cofia, ARGLWYDD, blant Edom yn nydd Jerwsalem; y rhai a ddywedent. Dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen.
8O ferch Babilon, a anrheithir: gwyn ei fyd a dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau.
9Gwyn ei fyd a gymero ac a drawo dy rai bach wrth y meini.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
