Numeri 31 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

2Dial feibion Israel ar y Midianiaid: wedi hynny ti a gesglir at dy bobl.

3A llefarodd Moses wrth y bobl, gan ddywedyd, Arfogwch ohonoch wŷr i’r rhyfel, ac ânt yn erbyn Midian, i roddi dial yr ARGLWYDD ar Midian.

4Mil o bob llwyth, o holl lwythau Israel, a anfonwch i’r rhyfel.

5A rhoddasant o filoedd Israel fil o bob llwyth, sef deuddeng mil, o rai wedi eu harfogi i’r rhyfel.

6Ac anfonodd Moses hwynt i’r rhyfel, mil o bob llwyth: hwynt a Phinees mab Eleasar yr offeiriad, a anfonodd efe i’r rhyfel, â dodrefn y cysegr, a’r utgyrn i utganu yn ei law.

7A hwy a ryfelasant yn erbyn Midian, megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses; ac a laddasant bob gwryw.

8Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy, gyda’u lladdedigion eraill: sef Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, pum brenin Midian: Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â’r cleddyf.

9Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Midian, a’u plant; ac a ysbeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt, a’u holl dda hwynt, a’u holl olud hwynt.

10Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau, a’u holl dyrau, a losgasant â thân.

11A chymerasant yr holl ysbail, a’r holl gaffaeliad, o ddyn ac o anifail.

12Ac a ddygasant at Moses, ac at Eleasar yr offeiriad, ac at gynulleidfa meibion Israel, y carcharorion, a’r caffaeliad, a’r ysbail, i’r gwersyll, yn rhosydd Moab, y rhai ydynt wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.

13Yna Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl benaduriaid y gynulleidfa, a aethant i’w cyfarfod hwynt o’r tu allan i’r gwersyll

14A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, capteiniaid y miloedd, a chapteiniaid y cannoedd, y rhai a ddaethant o frwydr y rhyfel.

15A dywedodd Moses wrthynt, A adawsoch chwi bob benyw yn fyw?

16Wele, hwynt, trwy air Balaam, a barasant i feibion Israel wneuthur camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD yn achos Peor; a bu pla yng nghynulleidfa yr ARGLWYDD.

17Am hynny lleddwch yn awr bob gwryw o blentyn; a lleddwch bob benyw a fu iddi a wnaeth â gŵr, trwy orwedd gydag ef.

18A phob plentyn o’r benywaid y rhai ni bu iddynt a wnaethant â gŵr, cedwch yn fyw i chwi.

19Ac arhoswch chwithau o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: pob un a laddodd ddyn, a phob un a gyffyrddodd wrth laddedig, ymlanhewch y trydydd dydd, a’r seithfed dydd, chwi a’ch carcharorion.

20Pob gwisg hefyd, a phob dodrefnyn croen, a phob gwaith o flew geifr, a phob llestr pren, a lanhewch chwi.

21A dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethant i’r rhyfel, Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses:

22Yn unig yr aur, a’r arian, y pres, yr haearn, yr alcam, a’r plwm;

23Pob dim a ddioddefo dân, a dynnwch trwy’r tân, a glân fydd; ac eto efe a lanheir â’r dwfr neilltuaeth: a’r hyn oll ni ddioddefo dân, tynnwch trwy y dwfr yn unig.

24A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd, a glân fyddwch; ac wedi hynny deuwch i’r gwersyll.

25A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

26Cymer nifer yr ysbail a gaed, o ddyn ac o anifail, ti ac Eleasar yr offeiriad, a phennau-cenedl y gynulleidfa:

27A rhanna’r caffaeliad yn ddwy ran; rhwng y rhyfelwyr a aethant i’r filwriaeth, a’r holl gynulleidfa.

28A chyfod deyrnged i’r ARGLWYDD gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i’r filwriaeth; un enaid o bob pum cant o’r dynion, ac o’r eidionau, ac o’r asynnod, ac o’r defaid.

29Cymerwch hyn o’u hanner hwynt, a dyro i Eleasar yr offeiriad, yn ddyrchafael-offrwm yr ARGLWYDD.

30Ac o hanner meibion Israel y cymeri un rhan o bob deg a deugain, o’r dynion, o’r eidionau, o’r asynnod, ac o’r defaid, ac o bob anifail, a dod hwynt i’r Lefiaid, y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr ARGLWYDD.

31A gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.

32A’r caffaeliad, sef gweddill yr ysbail yr hon a ddygasai pobl y filwriaeth, oedd chwe chan mil a phymtheg a thrigain o filoedd o ddefaid,

33A deuddeg a thrigain mil o eidionau,

34Ac un fil a thrigain o asynnod,

35Ac o ddynion, o fenywaid ni buasai iddynt a wnaethant â gŵr, trwy orwedd gydag ef, ddeuddeng mil ar hugain o eneidiau.

36A’r hanner, sef rhan y rhai a aethant i’r rhyfel, oedd, o rifedi defaid, dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant;

37A theyrnged yr ARGLWYDD o’r defaid oedd chwe chant a phymtheg a thrigain.

38A’r eidionau oedd un fil ar bymtheg ar hugain; a’u teyrnged i’r ARGLWYDD oedd ddeuddeg a thrigain.

39A’r asynnod oedd ddeng mil ar hugain a phum cant; a’u teyrnged i’r ARGLWYDD oedd un a thrigain.

40A’r dynion oedd un fil ar bymtheg; a’u teyrnged i’r ARGLWYDD oedd ddeuddeg enaid ar hugain.

41A Moses a roddodd deyrnged offrwm dyrchafael yr ARGLWYDD i Eleasar yr offeiriad, megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

42Ac o ran meibion Israel, yr hon a ranasai Moses oddi wrth y milwyr,

43Sef rhan y gynulleidfa o’r defaid, oedd dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant;

44Ac o’r eidionau, un fil ar bymtheg ar hugain;

45Ac o’r asynnod, deng mil ar hugain a phum cant;

46Ac o’r dynion, un fil ar bymtheg.

47Ie, cymerodd Moses o hanner meibion Israel, un rhan o bob deg a deugain, o’r dynion, ac o’r anifeiliaid, ac a’u rhoddes hwynt i’r Lefiaid oedd yn cadw cadwraeth tabernacl yr ARGLWYDD; megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

48A’r swyddogion, y rhai oedd ar filoedd y llu, a ddaethant at Moses, sef capteiniaid y miloedd a chapteiniaid y cannoedd:

49A dywedasant wrth Moses, Dy weision a gymerasant nifer y gwŷr o ryfel a roddaist dan ein dwylo ni; ac nid oes ŵr yn eisiau ohonom.

50Am hynny yr ydym yn offrymu offrwm i’r ARGLWYDD, pob un yr hyn a gafodd, yn offerynnau aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glustlysau, ac yn dorchau, i wneuthur cymod dros ein heneidiau gerbron yr ARGLWYDD.

51A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur ganddynt, y dodrefn gweithgar oll.

52Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm dyrchafael, yr hwn a offrymasant i’r ARGLWYDD, oddi wrth gapteiniaid y miloedd, ac oddi wrth gapteiniaid y cannoedd, yn un fil ar bymtheg saith gant a deg a deugain o siclau.

53(Ysbeiliasai y gwŷr o ryfel bob un iddo ei hun.)

54A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur gan gapteiniaid y miloedd a’r cannoedd, ac a’i dygasant i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth dros feibion Israel gerbron yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help