1Na wna ddrwg, ac ni oddiwedd drwg dydi.
2Ymado oddi wrth yr anghyfiawn, ac fe a gilia pechod oddi wrthyt ti.
3Fy mab, na heua ymysg cwysau anghyfiawnder, rhag i ti eu medi yn saith-ddyblyg.
4Na chais gan yr Arglwydd lywodraeth, na chadair gogoniant gan y brenin.
5Nac ymgyfiawnha gerbron yr Arglwydd, ac na chymer arnat fod yn ddoeth yng ngŵydd y brenin.
6Na chais fod yn farnwr, rhag na allech dynnu anghyfiawnder ymaith; rhag un amser i ti ofni rhag y cadarn, a gosod ohonot dramgwydd ar ffordd dy uniondeb.
7Na phecha yn erbyn torf dinas, ac nac ymwthia i dyrfa.
8Na ymrwym â phechod ddwywaith; oherwydd ni byddi ddigerydd am un.
9Na ddywed, Duw a edrych ar luosowgrwydd fy rhoddion i; a phan offrymwyf i’r Goruchaf Dduw, efe a’i derbyn.
10Na fydd egwan dy galon yn dy weddi, ac nac esgeulusa wneuthur elusen.
11Na watwar y dyn a fyddo yn chwerwder ei enaid: oherwydd y mae gostyngydd a dyrchafydd.
12Na ddychymyg gelwydd ar dy frawd; ac na wna y fath beth i’th gyfaill.
13Na fyn ddywedyd dim celwydd: oherwydd ni ddaw mynych ymarfer ohono ef i ddaioni.
14Na fydd siaradus ymysg lliaws o henuriaid; ac nac ofer aildraetha dy ymadrodd yn dy weddi.
15Na chasâ waith poenus, na hwsmonaeth, yr hon a greodd y Goruchaf.
16Na chyfrif di dy hun ymysg pechaduriaid; eithr cofia nad oeda digofaint.
17Darostwng dy enaid yn ddirfawr: canys dialedd yr annuwiol fydd tân a phryf.
18Na newidia gyfaill am ddim cyffredinol, na’th frawd ffyddlon am aur Offir.
19Nac ymado â gwraig ddoeth dda: canys gwell yw ei gras hi nag aur.
20Na fydd ddrwg wrth weinidog a fyddo yn gweithio mewn gwirionedd, na’r gwas cyflog sydd yn ei roddi ei hunan i ti yn hollol.
21Cared dy enaid weinidog synhwyrol, ac na thwylla ef am ei ryddid.
22Os anifeiliaid sy gennyt, edrych arnynt: ac os buddiol ydynt i ti, cadw hwynt gyda thi.
23Od oes i ti blant, dysg hwynt, a gostwng eu gyddfau hwy o’u hieuenctid.
24Od oes ferched i ti, gwylia eu cyrff hwynt, ac na ddangos dy wyneb yn llawen wrthynt.
25Dod dy ferch yn briod, a thi a fyddi wedi gwneuthur gwaith mawr: eithr dod hi i ŵr synhwyrol.
26Oes i ti wraig wrth dy feddwl? na fwrw hi ymaith, ac na ddod dy hun i un atgas.
27Anrhydedda dy dad â’th holl galon, ac nac anghofia ofidiau dy fam:
28Cofia mai trwyddynt hwy y’th anwyd di; a pha beth a deli di iddynt hwy, o’r fath a wnaethant hwy i ti?
29Ofna’r Arglwydd â’th holl enaid, a pharcha ei offeiriaid ef.
30Câr yr hwn a’th wnaeth a’th holl nerth, ac na ad ei weinidogion ef.
31Ofna’r Arglwydd, ac anrhydedda’r offeiriad: a dod iddo ef ran, fel y gorchmynnwyd i ti; y blaenffrwyth, a’r aberth dros gamwedd, a rhodd y palfeisiau, ac aberth y cysegriad, a blaenffrwyth y pethau sanctaidd.
32Estyn hefyd dy law i’r tlawd, fel y perffeithier dy fendith di.
33Y mae cymeriad i rodd yng ngolwg pob un byw; ac na atal gymwynas i’r marw.
34Na phalla fod gyda’r wylofus: a galara gyda’r galarus.
35Na fydd ddiog i ofwyo’r claf: canys trwy’r cyfryw bethau y’th gerir di.
36Yn dy holl eiriau meddwl am dy ddiwedd, ac ni phechi di byth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.