Diarhebion 19 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na’r traws ei wefusau, ac yntau yn ffôl.

2Hefyd, bod yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda; a’r hwn sydd brysur ei draed a becha.

3Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef: a’i galon a ymddigia yn erbyn yr ARGLWYDD.

4Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeillion: ond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog.

5Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddianc.

6Llawer a ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gyfaill i’r hael.

7Holl frodyr y tlawd a’i casânt ef: pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho? er maint a ymnheddo, ni throant ato.

8A gaffo ddoethineb a gâr ei enaid: a gadwo ddeall a ennill ddaioni.

9Tyst celwyddog ni bydd dieuog; a thraethwr celwyddau a ddifethir.

10Nid gweddaidd i ffôl hyfrydwch: anweddeiddiach o lawer i was arglwyddiaethu ar benaethiaid.

11Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned dros gamwedd.

12Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc: ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt.

13Mab ffôl sydd orthrymder i’w dad: ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus.

14Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau: ond rhodd yr ARGLWYDD yw gwraig bwyllog.

15Syrthni a bair drymgwsg: ac enaid twyllodrus a newyna.

16Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a’r neb a esgeulusa ei ffyrdd fydd farw.

17Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i’r ARGLWYDD; a’i rodd a dâl efe iddo drachefn.

18Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i’w ddifetha.

19Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth: canys os ti a’i gwaredi, rhaid i ti wneuthur hynny drachefn.

20Gwrando gyngor, a chymer addysg; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd.

21Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn: ond cyngor yr ARGLWYDD, hwnnw a saif.

22Deisyfiad dyn yw ei drugaredd ef: a gwell yw y dyn tlawd na’r gŵr celwyddog.

23Ofn yr ARGLWYDD a dywys i fywyd: a’r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall, heb i ddrwg ymweled ag ef.

24Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes, ac ni estyn hi at ei enau.

25Taro watwarwr, a’r ehud fydd gyfrwysach: a phan geryddych y deallus, efe a ddeall wybodaeth.

26Mab gwaradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr.

27Fy mab, paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth.

28Tyst y fall a watwar farn: a genau y drygionus a lwnc anwiredd.

29Barn sydd barod i’r gwatwarwyr, a chleisiau i gefn y ffyliaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help