Y Salmau 148 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 148

1Molwch yr ARGLWYDD. Molwch yr ARGLWYDD o’r nefoedd: molwch ef yn yr uchelderau.

2Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd.

3Molwch ef, haul a lleuad: molwch ef, yr holl sêr goleuni.

4Molwch ef, nef y nefoedd; a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.

5Molant enw yr ARGLWYDD: oherwydd efe a orchmynnodd, a hwy a grewyd.

6A gwnaeth iddynt barhau byth yn dragywydd: gosododd ddeddf, ac nis troseddir hi.

7Molwch yr ARGLWYDD o’r ddaear, y dreigiau, a’r holl ddyfnderau:

8Tân a chenllysg, eira a tharth; gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef:

9Y mynyddoedd a’r bryniau oll; y coed ffrwythlon a’r holl gedrwydd:

10Y bwystfilod a phob anifail; yr ymlusgiaid ac adar asgellog:

11Brenhinoedd y ddaear a’r holl bobloedd; tywysogion a holl farnwyr y byd:

12Gwŷr ieuainc a gwyryfon hefyd; hynafgwyr a llanciau:

13Molant enw yr ARGLWYDD: oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafadwy; ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd.

14Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant ei holl saint; sef meibion Israel, pobl agos ato. Molwch yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help