1Os pechaist, fy mab, na wna mwy; eithr gweddïa dros yr hyn a fu.
2Ffo oddi wrth bechod megis rhag wyneb sarff: oblegid os deui di yn agos ato, efe a’th frath di: dannedd llew yw ei ddannedd ef, yn lladd eneidiau dynion.
3Pob anwiredd sy fel cleddyf daufiniog: ni ellir iacháu ei archollion ef.
4Ymsywyn a cham a anrheithia gyfoeth: felly y gwneir tŷ’r beilchion yn anghyfannedd.
5Gweddi o enau’r tlawd a gyrraedd i glustiau’r Arglwydd: a’i farn ef a ddaw yn ebrwydd.
6Yr hwn sydd yn casáu cerydd, sydd ar lwybr pechadur; eithr yr hwn sydd yn ofni’r Arglwydd, a dry o ewyllys ei galon.
7Adwaenir o bell ac o agos yr ymadroddus ei dafod: eithr y doeth a ŵyr pan lithro efe.
8Yr hwn a adeilado ei dŷ ag arian rhai eraill, sy megis yr hwn sydd yn casglu iddo ei hun gerrig i wneuthur carnedd ei feddrod.
9Swp o garth yw cynulleidfa y rhai anwir; a’u diwedd fydd fflam dân i’w dinistrio.
10Ffordd pechaduriaid a wastatawyd â cherrig: ac yn ei chwr eithaf hi y mae ffos uffern.
11Yr hwn sydd yn cadw cyfraith yr Arglwydd, sydd yn dyfod i’w deall hi: a pherffeithrwydd ofn yr Arglwydd yw derbyn doethineb.
12Yr hwn nid yw gall, ni chymer ddysg: canys y mae callineb yn amlhau chwerwedd.
13Gwybodaeth y doeth a amlha fel llifeiriant; a’i gyngor ef fydd fel pur ffynnon y bywyd.
14Y tu mewn i’r ffôl sy fel llestr twn; ni ddeil efe ddim gwybodaeth yn ei fywyd.
15Gŵr doeth, os clyw air doeth, a’i cenmyl, ac a chwanega ato: yr annoeth a’i clybu, ac nid oedd fodlon ganddo, eithr efe a’i trodd yn ôl ei gefn.
16Ymadrodd y ffôl sy megis baich ar ffordd: eithr yng ngwefusau y doeth y ceir gras.
17A genau’r doeth yr ymofynnir yn y gynulleidfa; a hwy a ystyriant ei eiriau ef yn eu calonnau.
18Megis tŷ wedi ei dynnu ymaith yw doethineb i’r ffôl: ac ymddiddan disynnwyr yw gwybodaeth yr annoeth.
19Megis llyffetheiriau ar draed, ac megis gefynnau dwylo ar y llaw ddeau, yw addysg gan y rhai annoeth.
20Y ffôl yn chwerthin a gyfyd ei lef; eithr prin y gwena gŵr call yn ddistaw.
21Megis tlws o aur yw addysg gan y call, ac megis arddyrndlws ar y braich deau.
22Buan fydd troed y ffôl yn nhŷ arall; a’r gŵr a ŵyr lawer fydd gwaradwyddus ganddo hynny.
23Yr angall o’r drws a ysbia i’r tŷ; eithr gŵr medrus a saif allan.
24Anfedrusrwydd dyn yw gwrando wrth ddrysau; a’r call fydd blin ganddo yr amarch.
25Gwefusau y rhai siaradus a draethant bethau ni pherthyn iddynt eu hun: a geiriau y rhai call a bwysir mewn clorian.
26Yng ngenau ffyliaid y mae eu calon; ac yng nghalon doethion y mae eu genau.
27Pan felltithio’r annuwiol Satan, y mae efe yn melltithio ei enaid ei hun.
28Yr hustyngwr sydd yn halogi ei enaid ei hun, ac a gaseir pa le bynnag yr ymdeithio.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.