Tobit 14 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 14

1A Thobit a ddiweddodd ei gyffes.

2Ac yr oedd efe namyn dwy trigain o flynyddoedd pan gollodd ei olwg; ac yn ôl wyth mlynedd y cafodd ef eilwaith. Ac efe a wnaeth elusennau; ac efe a gynyddodd yn ofn yr Arglwydd Dduw ac yn ei foliant ef.

3Ac wedi ei fyned yn hen iawn, efe a alwodd ei fab, a chwe mab ei fab, ac a ddywedodd wrtho, Wele, fy mab, cymer dy blant; wele, mi a heneiddiais, ac ar ymado a’r byd hwn yr ydwyf.

4Dos i Media, fy mab: o achos yr ydwyf yn credu pob peth a’r a ddywedodd Jonas y proffwyd ynghylch Ninefe; y distrywir hi, ac y bydd heddwch yn nhir Media yn hytrach dros amser, ac y gwasgerir ein brodyr ni ar hyd y gwledydd, allan o’r tir da, ac y diffeithir Jerwsalem; a theml yr Arglwydd, yr hon sydd ynddi, a ddiffeithir dros amser;

5A thrachefn y trugarha Duw wrthynt, ac a’u dychwel hwynt i’r wlad: yno yr adeiladant y deml, nid o fath y gyntaf, oni chyflawner amser yr oes honno: ac yn ôl hynny y dychwelant o bob man o’u caethiwed, ac a adeiladant Jerwsalem yn anrhydeddus, a thŷ Dduw a adeiledir ynddi ag adeilad gogoneddus, yn holl oesoedd y byd, modd y dywedodd y proffwydi amdani.

6A’r holl genhedloedd a wir ddychwelant i ofni’r Arglwydd Dduw, ac a gladdant eu delwau.

7Yna y bendithia’r holl genhedloedd yr Arglwydd: a’i bobl ef a gyffesant Dduw, a’r Arglwydd a ddyrchaif ei bobl; a phawb a lawenychant a’r a garant yr Arglwydd Dduw mewn gwirionedd a chyfiawnder, gan wneuthur trugaredd â’n brodyr ni.

8Ac yn awr, fy mab, dos ymaith o Ninefe; oblegid diamau y daw y pethau a ddywedodd y proffwyd Jonas i ben.

9Eithr cadw di’r ddeddf a’r gorchmynion, a bydd elusengar a chyfiawn, fel y byddo rhwydd rhagot.

10Cladd fi yn weddaidd, a’th fam gyda mi; ac nac arhoswch mwy haeach yn Ninefe. Cofia, fy mab, beth a wnaeth Aman i Achiacarus, yr hwn a’i magodd ef, y modd yr arweiniodd efe ef o’r goleuni i’r tywyllwch, ac fel y gobrwyodd efe ef drachefn: ac eto Achiacarus a ddihangodd; eithr efe a gafodd ei haeddedigaeth, ac a ddisgynnodd i’r tywyllwch. Manasses a wnaeth elusen, ac a ddihangodd o fagi yr angau a osodasent iddo: eithr Aman a syrthiodd i’r fagl, a darfu amdano.

11Ac yr awron, fy mhlentyn, ystyria beth a wna elusendod, a’r modd y gwared cyfiawnder. A phan ddywedodd efe’r pethau hyn, ei enaid ef a ballodd yn y gwely; ac yr oedd efe yn gant a namyn dwy trigain mlwydd o oed. Ac efe a’i claddodd ef yn anrhydeddus.

12A phan fu farw Anna ei fam ef, efe a’i claddodd hi gyda’i dad. Ac aeth Tobeias, efe a’i wraig, a’i blant, i Ecbatane, at Raguel ei chwegrwn.

13Ac efe a heneiddiodd mewn urddas, ac a gladdodd dad a mam ei wraig yn anrhydeddus, ac a berchenogodd eu da hwynt, gyda da Tobit ei dad:

14Ac a fu farw yn Ecbatane yng ngwlad Media, pan oedd gant a saith ar hugain o flwyddau o oed.

15A chyn ei farw, efe a glybu ddinistrio Ninefe, yr hon a ddug Nabuchodonosor ac Assuerus i gaethiwed: felly efe a lawenychodd cyn ei farw am Ninefe.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help