1Yna yr ARGLWYDD a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd,
2Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth.
3Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti.
4Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall.
5Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi?
6Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi,
7Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion DUW?
8A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o’r groth?
9Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo,
10Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau,
11Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di.
12A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i’r wawrddydd ei lle,
13I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi?
14Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad.
15Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig.
16A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder?
17A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau?
18A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd.
19Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch,
20Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i’w dŷ ef?
21A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr?
22A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg,
23Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel?
24Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear?
25Pwy a rannodd ddyfrlle i’r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau,
26I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn; ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo?
27I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu?
28A oes dad i’r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith?
29O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd?
30Y dyfroedd a guddir megis â charreg, ac wyneb y dyfnder a rewodd.
31A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion?
32A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a’i feibion?
33A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear?
34A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi?
35A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni?
36Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i’r galon?
37Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb? a phwy a all atal costrelau y nefoedd.
38Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd?
39A elli di hela ysglyfaeth i’r llew? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod,
40Pan ymgrymant yn eu llochesau, pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn?
41Pwy a ddarpar i’r gigfran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar DDUW, gwibiant o eisiau bwyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.