Y Salmau 47 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 47I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.

1Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i DDUW â llef gorfoledd.

2Canys yr ARGLWYDD goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear.

3Efe a ddwg y bobl danom ni, a’r cenhedloedd dan ein traed.

4Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela.

5Dyrchafodd DUW â llawen floedd, yr ARGLWYDD â sain utgorn.

6Cenwch fawl i DDUW, cenwch: cenwch fawl i’n Brenin, cenwch.

7Canys Brenin yr holl ddaear yw DUW: cenwch fawl yn ddeallus.

8 DUW sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae DUW ar orseddfainc ei sancteiddrwydd.

9Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd, sef pobl DUW Abraham: canys tarianau y ddaear ydynt eiddo DUW: dirfawr y dyrchafwyd ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help