Barnwyr 18 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel: ac yn y dyddiau hynny llwyth y Daniaid oedd yn ceisio iddynt etifeddiaeth i drigo; canys ni syrthiasai iddynt hyd y dydd hwnnw etifeddiaeth ymysg llwythau Israel.

2A meibion Dan a anfonasant o’u tylwyth bump o wŷr o’u bro, gwŷr grymus, o Sora, ac o Estaol, i ysbïo’r wlad, ac i’w chwilio; ac a ddywedasant wrthynt, Ewch, chwiliwch y wlad. A phan ddaethant i fynydd Effraim i dŷ Mica, hwy a letyasant yno.

3Pan oeddynt hwy wrth dŷ Mica, hwy a adnabuant lais y gŵr ieuanc y Lefiad; ac a droesant yno, ac a ddywedasant wrtho, Pwy a’th ddug di yma? a pheth yr ydwyt ti yn ei wneuthur yma? a pheth sydd i ti yma?

4Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn ac fel hyn y gwnaeth Mica i mi; ac efe a’m cyflogodd i, a’i offeiriad ef ydwyf fi.

5A hwy a ddywedasant wrtho ef, Ymgynghora, atolwg, â DUW, fel y gwypom a lwydda ein ffordd yr ydym ni yn rhodio arni.

6A’r offeiriad a ddywedodd wrthynt, Ewch mewn heddwch: gerbron yr ARGLWYDD y mae eich ffordd chwi, yr hon a gerddwch.

7Yna y pumwr a aethant ymaith, ac a ddaethant i Lais; ac a welsant y bobl oedd ynddi yn trigo mewn diogelwch, yn ôl arfer y Sidoniaid, yn llonydd ac yn ddiofal; ac nid oedd swyddwr yn y wlad, yr hwn a allai eu gyrru hwynt i gywilydd mewn dim: a phell oeddynt oddi wrth y Sidoniaid, ac heb negesau rhyngddynt a neb.

8A hwy a ddaethant at eu brodyr i Sora ac Estaol. A’u brodyr a ddywedasant wrthynt, Beth a ddywedwch chwi?

9Hwythau a ddywedasant, Cyfodwch, ac awn i fyny arnynt: canys gwelsom y wlad; ac wele, da iawn yw hi. Ai tewi yr ydych chwi? na ddiogwch fyned, i ddyfod i mewn i feddiannu’r wlad.

10Pan eloch, chwi a ddeuwch at bobl ddiofal, a gwlad eang: canys DUW a’i rhoddodd hi yn eich llaw chwi: sef lle nid oes ynddo eisiau dim a’r y sydd ar y ddaear.

11Ac fe aeth oddi yno, o dylwyth y Daniaid, o Sora ac o Estaol, chwe channwr, wedi ymwregysu ag arfau rhyfel.

12A hwy a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Ciriath-jearim, yn Jwda: am hynny y galwasant y fan honno Mahane-dan, hyd y dydd hwn: wele, y mae o’r tu ôl i Ciriath-jearim.

13A hwy a aethant oddi yno i fynydd Effraim, ac a ddaethant hyd dŷ Mica.

14A’r pumwr, y rhai a aethent i chwilio gwlad Lais, a lefarasant, ac a ddywedasant wrth eu brodyr, Oni wyddoch chwi fod yn y tai hyn effod a theraffim, a delw gerfiedig, a thoddedig? gan hynny ystyriwch yn awr beth a wneloch.

15A hwy a droesant tuag yno; ac a ddaethant hyd dŷ y gŵr ieuanc y Lefiad, i dŷ Mica; ac a gyfarchasant well iddo.

16A’r chwe channwr, y rhai oedd wedi eu gwregysu ag arfau rhyfel, oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, sef y rhai oedd o feibion Dan.

17A’r pumwr, y rhai a aethent i chwilio’r wlad, a esgynasant, ac a aethant i mewn yno; ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, a’r effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig: a’r offeiriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, gyda’r chwe channwr oedd wedi ymwregysu ag arfau rhyfel.

18A’r rhai hyn a aethant i dŷ Mica, ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, yr effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig. Yna yr offeiriad a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei wneuthur?

19Hwythau a ddywedasant wrtho, Taw â sôn; gosod dy law ar dy safn, a thyred gyda ni, a bydd i ni yn dad ac yn offeiriad: ai gwell i ti fod yn offeiriad i dŷ un gŵr, na’th fod yn offeiriad i lwyth ac i deulu yn Israel?

20A da fu gan galon yr offeiriad; ac efe a gymerth yr effod, a’r teraffim, a’r ddelw gerfiedig, ac a aeth ymysg y bobl.

21A hwy a droesant, ac a aethant ymaith; ac a osodasant y plant, a’r anifeiliaid, a’r clud, o’u blaen.

22A phan oeddynt hwy ennyd oddi wrth dŷ Mica, y gwŷr oedd yn y tai wrth dŷ Mica a ymgasglasant, ac a erlidiasant feibion Dan.

23A hwy a waeddasant ar feibion Dan. Hwythau a droesant eu hwynebau, ac a ddywedasant wrth Mica, Beth a ddarfu i ti, pan wyt yn dyfod â’r fath fintai?

24Yntau a ddywedodd, Fy nuwiau, y rhai a wneuthum i, a ddygasoch chwi ymaith, a’r offeiriad, ac a aethoch i ffordd: a pheth sydd gennyf fi mwyach? a pha beth yw hyn a ddywedwch wrthyf, Beth a ddarfu i ti?

25A meibion Dan a ddywedasant wrtho, Na ad glywed dy lef yn ein mysg ni; rhag i wŷr dicllon ruthro arnat ti, a cholli ohonot dy einioes, ac einioes dy deulu.

26A meibion Dan a aethant i’w ffordd. A phan welodd Mica eu bod hwy yn gryfach nag ef, efe a drodd, ac a ddychwelodd i’w dŷ.

27A hwy a gymerasant y pethau a wnaethai Mica, a’r offeiriad oedd ganddo ef, ac a ddaethant i Lais, at bobl lonydd a diofal; ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a losgasant y ddinas â thân.

28Ac nid oedd waredydd; canys pell oedd hi oddi wrth Sidon, ac nid oedd negesau rhyngddynt a neb; hefyd yr oedd hi yn y dyffryn oedd wrth Beth-rehob: a hwy a adeiladasant ddinas, ac a drigasant ynddi.

29A hwy a alwasant enw y ddinas Dan, yn ôl enw Dan eu tad, yr hwn a anesid i Israel: er hynny Lais oedd enw y ddinas ar y cyntaf.

30A meibion Dan a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig: a Jonathan mab Gerson, mab Manasse, efe a’i feibion, fuant offeiriaid i lwyth Dan hyd ddydd caethgludiad y wlad.

31A hwy a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig a wnaethai Mica, yr holl ddyddiau y bu tŷ DDUW yn Seilo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help