Eseia 59 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Wele, ni fyrhawyd llaw yr ARGLWYDD, fel na allo achub; ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na allo glywed:

2Eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a’ch DUW, a’ch pechodau a guddiasant ei wyneb oddi wrthych, fel na chlywo.

3Canys eich dwylo a halogwyd â gwaed, a’ch bysedd â chamwedd: eich gwefusau a draethasant gelwydd, eich tafod a fyfyriodd anwiredd.

4Nid oes a alwo am gyfiawnder, nac a ddadlau dros y gwirionedd: y maent yn gobeithio mewn gwagedd, ac yn dywedyd celwydd; yn beichiogi ar flinder, ac yn esgor ar anwiredd.

5Wyau asb a ddodwasant, a gweoedd y pryf copyn a weant: yr hwn a fwyty o’u hwyau a fydd farw, a’r hwn a sathrer a dyr allan yn wiber.

6Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd, ac nid ymddilladant â’u gweithredoedd: eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd, a gwaith trawster sydd yn eu dwylo.

7Eu traed a redant i ddrygioni, a hwy a frysiant i dywallt gwaed gwirion: eu meddyliau sydd feddyliau anwir; distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd hwynt.

8Ffordd heddwch nid adwaenant; ac nid oes gyfiawnder yn eu llwybrau: gwnaethant iddynt lwybrau ceimion: pwy bynnag a rodio yno, nid edwyn heddwch.

9Am hynny y ciliodd barnedigaeth oddi wrthym, ac ni’n goddiweddodd cyfiawnder: disgwyliasom am oleuni, ac wele dywyllwch; am ddisgleirdeb, ac yn y fagddu yr ydym yn rhodio.

10Palfalasom fel deillion â’r pared, ie, fel rhai heb lygaid y palfalasom: tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos; oeddem mewn lleoedd anghyfannedd fel rhai meirw.

11Nyni oll a ruasom fel eirth, a chan riddfan y griddfanasom fel colomennod: disgwyliasom am farn, ac nid oes dim: am iachawdwriaeth, ac ymbellhaodd oddi wrthym.

12Canys amlhaodd ein camweddau ger dy fron, a thystiolaethodd ein pechodau i’n herbyn: oherwydd ein camweddau sydd gyda ni; a’n hanwireddau, ni a’u hadwaenom:

13Camweddu, a dywedyd celwydd yn erbyn yr ARGLWYDD, a chilio oddi ar ôl ein DUW, dywedyd trawster ac anufudd-dod, myfyrio a thraethu o’r galon eiriau gau.

14Barn hefyd a droed yn ei hôl, a chyfiawnder a safodd o hirbell: canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni all ddyfod i mewn.

15Ie, gwirionedd sydd yn pallu, a’r hwn sydd yn cilio oddi wrth ddrygioni a’i gwna ei hun yn ysbail: a gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a drwg oedd yn ei olwg nad oedd barn.

16Gwelodd hefyd nad oedd gŵr, a rhyfeddodd nad oedd eiriolwr: am hynny ei fraich a’i hachubodd, a’i gyfiawnder ei hun a’i cynhaliodd.

17Canys efe a wisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; ac a wisgodd wisgoedd dial yn ddillad; ie, gwisgodd sêl fel cochl.

18Yn ôl y gweithredoedd, ie, yn eu hôl hwynt, y tâl efe, llid i’w wrthwynebwyr, taledigaeth i’w elynion; taledigaeth i’r ynysoedd a dâl efe.

19Felly yr ofnant enw yr ARGLWYDD o’r gorllewin, a’i ogoniant ef o godiad haul. Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon, Ysbryd yr ARGLWYDD a’i hymlid ef ymaith.

20Ac i Seion y daw y Gwaredydd, ac i’r rhai a droant oddi wrth anwiredd yn Jacob, medd yr ARGLWYDD.

21A minnau, dyma fy nghyfamod â hwynt, medd yr ARGLWYDD: Fy ysbryd yr hwn sydd arnat, a’m geiriau y rhai a osodais yn dy enau, ni chiliant o’th enau, nac o enau dy had, nac o enau had dy had, medd yr ARGLWYDD, o hyn allan byth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help