1Dyma hefyd gopi y llythyr: Y brenin mawr Artacsercses sydd yn ysgrifennu hyn at y tywysogion, a’r rhaglawiaid, y rhai sy dano ef ar saith ar hugain a chant o daleithiau, o India hyd Ethiopia.
2Gan fy mod i yn arglwydd ar genhedloedd lawer, ac yn llywodraethu’r holl fyd, mi a ewyllysiais, heb ymddyrchafu oherwydd cadernid awdurdod, eithr gan lywodraethu yn addfwyn ac yn llonydd bob amser, osod y deiliaid yn wastadol mewn bywyd llonydd, a gwneuthur y deyrnas yn heddychol ac yn hyffordd hyd yr eithafoedd, ac adnewyddu heddwch, yr hwn y mae pob dyn yn ei chwennych.
3A phan ymgynghorais i â’m cynghorwyr pa fodd y dygid hyn i ben, Aman, yr hwn a aeth yn rhagorol mewn doethineb gyda nyni, ac sydd hysbys ei fod mewn dianwadal ewyllys da a sicr ffyddlondeb, yr hwn sydd yn cael yr ail anrhydedd yn y deyrnas,
4A fynegodd i ni fod pobl atgas wedi ymgymysgu â holl lwythau’r byd, yn wrthwynebus eu cyfraith i bob cenedl, ac yn esgeuluso yn wastad orchmynion brenhinoedd, fel na all undeb ein teyrnasoedd ni, yr hon yr ydym ni yn anrhydeddus yn ei hamcanu, fyned rhagddi:
5Pan gawsom ninnau wybod y modd y mae’r genedl hon yn unig wedi ymosod i wrthwynebu pob dyn yn wastad, gan newidio, ac ymrafaelio â’r pethau yr ydym ni yn eu gorchymyn, trwy ddwyn cyfreithiau dieithr, a chan gyflawni pob drygioni a fedront, fel na chaffo ein brenhiniaeth ni wastadfod:
6Am hynny y gorchmynasom am y rhai a hysbysir i chwi mewn ysgrifen oddi wrth Aman, yr hwn sydd swyddog ar ein materion, ac yn ail i ni, eu llwyr ddifetha hwynt oll gyda’u gwragedd a’u plant, trwy gleddyfau eu gelynion, heb ddim trugaredd na thosturi, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o Adar, hwnnw yw’r deuddegfed mis o’r flwyddyn bresennol hon:
7Fel y byddo o hyn allan i’r rhai oedd gynt, ac yn awr ydynt elynion, wedi iddynt mewn un dydd trwy nerth ddisgyn i uffern, adael pethau yn llonydd, ac yn gwbl ddidrallod i ni.
8Yntau, gan feddwl am holl weithredoedd yr Arglwydd, a weddïodd ar yr Arglwydd,
9Ac a ddywedodd, O Arglwydd, Arglwydd, hollalluog Frenin, oblegid bod pob peth yn dy feddiant di, ac nad oes a’th wrthwynebo di pan fynnech achub Israel:
10Oblegid ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear, a phob dim rhyfedd, yn yr hyn sy dan y nefoedd.
11Arglwydd pob dim ydwyt ti hefyd, ac nid oes a’th wrthwyneba di, yr hwn ydwyt Arglwydd.
12Ti a adwaenost bob peth, ti a wyddost, O Arglwydd, nad o draha, nac o falchder, nac o chwant gogoniant, y gwneuthum i hyn, sef nad anrhydeddwn Aman falch:
13Canys mi a fuaswn fodlon i gusanu ôl ei draed ef er iachawdwriaeth i Israel.
14Ond mi a wneuthum hyn rhag gosod ohonof ogoniant dyn goruwch gogoniant Duw, a rhag addoli ohonof neb ond tydi: ac nid o falchder y gwnaf hyn.
15Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Frenin, arbed dy bobl: oherwydd y maent hwy yn edrych arnom ni i’n dinistrio, a hwy a chwenychasant ddifetha’r hon syd o’r dechreuad yn etifeddiaeth i ti.
16Na ddiystyra y rhan a waredaist i ti dy hun o dir yr Aifft.
17Gwrando fy ngweddi, a bydd drugarog wrth dy ran; a thro ein tristwch yn hyfrydwch; fel y gallom ni fyw, a moliannu dy enw di, O Arglwydd: ac na ddifetha enau y rhai sydd yn dy glodfori di, O Arglwydd.
18Felly Israel oll a lefasant yn gryfaf y gallent: oblegid eu marwolaeth oedd o flaen eu llygaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.