Job 23 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2Y mae fy ymadrodd heddiw yn chwerw: fy nialedd sydd drymach na’m huchenaid.

3O na wyddwn pa le y cawn ef! fel y deuwn at ei eisteddfa ef!

4Trefnwn fy mater ger ei fron ef, a llanwn fy ngenau â rhesymau.

5Mynnwn wybod â pha eiriau y’m hatebai; a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf.

6A ddadlau efe i’m herbyn â helaethrwydd ei gadernid? Na wna; ond efe a osodai nerth ynof.

7Yno yr uniawn a ymresymai ag ef: felly mi a ddihangwn byth gan fy marnwr.

8Wele, ymlaen yr af, ond nid ydyw efe yno; yn ôl hefyd, ond ni fedraf ei ganfod ef:

9Ar y llaw aswy, lle y mae efe yn gweithio, ond ni fedraf ei weled ef: ar y llaw ddeau y mae yn ymguddio, fel na chaf ei weled:

10Ond efe a edwyn fy ffordd i: wedi iddo fy mhrofi, myfi a ddeuaf allan fel aur.

11Fy nhroed a ddilynodd ei gerddediad ef: cedwais ei ffordd ef, ac ni ŵyrais.

12Nid ydwyf chwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef: hoffais eiriau ei enau ef yn fwy na’m hymborth angenrheidiol.

13Ond y mae efe yn un, a phwy a’i try ef? a’r hyn y mae ei enaid ef yn ei chwenychu, efe a’i gwna.

14Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi: ac y mae ganddo lawer o’r fath bethau.

15Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef: ystyriais, ac ofnais ef.

16Canys DUW a feddalhaodd fy nghalon, a’r Hollalluog a’m cythryblodd:

17Oherwydd na thorrwyd fi ymaith o flaen y tywyllwch, ac na chuddiodd efe y tywyllwch o’m gŵydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help