II Esdras 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 3

1Yddegfed flwyddyn ar hugain yn ôl distrywio’r ddinas, yr oeddwn i o fewn Babilon, yn gorwedd ar fy ngwely yn drallodus, a’m meddyliau oedd yn dyfod i fyny ar fy nghalon:

2Canys mi a welais anghyfanhedddra Seion, a golud trigolion Babilon.

3A’m hysbryd a gynhyrfwyd yn ddirfawr, a mi a ddechreuais lefaru wrth y Goruchaf eiriau llawn o ofn, ac a ddywedais,

4O Arglwydd lywydd, ti a ddywedaist yn y dechrau, pan osodaist y ddaear, a hynny dy hun yn unig, ac a roddaist orchymyn i’r bobl,

5Ac a roddaist gorff i Adda dienaid, yr hwn oedd waith dy ddwylo, ac a anedlaist ynddo anadl einioes, ac efe a wnaed yn fyw ger dy fron di.

6A thi a’i dygaist ef i Baradwys, yr hon a blanasai dy ddeheulaw di, cyn dyfod o’r ddaear rhagddi erioed:

7A gorchmynnaist iddo garu dy ffordd di, yr hon a droseddodd efe; ac allan o law ti a ordeiniaist ynddo ef farwolaeth, ac yn ei genedlaethau ef, o’r rhai y daeth cenhedloedd, llwythau, pobloedd, a thylwythau, aneirif.

8A phob cenedl a rodiodd wrth eu hewyllys eu hun, a hwy a wnaethant bethau rhyfedd yn dy olwg di, ac a ddiystyrasant dy orchmynion.

9Ond yn ôl ennyd o amser, ti a ddygaist y dilyw ar uchaf preswylwyr y byd ac a’u difethaist hwynt.

10Ac fe ddigwyddodd ym mhawb ohonynt, fel yr oedd marwolaeth i Adda, felly yr oedd y dilyw i’r rhai hyn.

11Eto un ohonynt a adewaist ti, sef Noa, a’i deulu, o’r hwn y daeth pob dyn cyfiawn.

12A digwyddodd, pan ddechreuodd y rhai oedd yn preswylio ar y ddaear amlhau, a phan oedd iddynt lawer o blant, a phan oeddynt yn bobl lawer, hwy a ddechreuasant wneuthur mwy o anwiredd na’r rhai cyntaf.

13A digwyddodd, pan oeddynt yn byw mor annuwiol ger dy fron di, ddewis ohonot i ti ŵr ohonynt a elwid Abraham:

14A hwnnw a geraist ti, a dangosaist iddo ef yn unig dy ewyllys;

15A gwnaethost ag ef gyfamod tragwyddol, gan addo iddo na wrthodid byth ei had ef.

16A thi a roddaist iddo ef Isaac, ac i Isaac y rhoddaist Jacob ac Esau: a Jacob a ddewisaist i ti, a gwrthodaist Esau; ac felly Jacob a aeth yn genedl fawr.

17Yna pan arweiniaist ei had ef allan o’r Aifft, ti a’u dygaist hwynt i fyny i fynydd Seina:

18A chan ogwyddo’r nefoedd, ti a sicrheaist y ddaear, ac a gynhyrfaist yr holl fyd, ac a wnaethost i’r dyfnderoedd grynu, ac a drallodaist ddynion yr oes honno.

19A’th ogoniant a aeth trwy bedwar porth, tân, daeargryn, gwynt, ac oerni, fel y gellit roddi cyfraith i had Jacob, a diwydrwydd i genhedlaeth Israel.

20Ac ni thynnaist oddi wrthynt hwy galon ddrwg, fel y gallai dy gyfraith di ddwyn ffrwyth ynddynt.

21Canys yr Adda cyntaf yn dwyn calon ddrwg, a droseddodd ac a orchfygwyd; a phawb a’r a anwyd ohono ef ydynt felly.

22Fel hyn yr arhosodd gwendid, a’r gyfraith hefyd yng nghalon y bobl, ynghyd â drygioni’r gwreiddyn, fel yr ymadawodd yr hyn oedd dda, ac yr arhosodd y drwg.

23Ac felly’r amseroedd a gerddasant, a’r blynyddoedd a ddarfuant; yna y codaist i fyny i ti was a elwid Dafydd;

24Ac a beraist iddo adeiladu dinas i’th enw di, ac offrwm i ti yno thus ac aberthau.

25A hyn a wnaethpwyd dros lawer o flynyddoedd; yna preswylwyr y ddinas a ymadawsant â thi,

26Gan wneuthur ym mhob peth fel y gwnaethai Adda a’i holl genedlaethau: canys calon ddrwg oedd ganddynt hwythau hefyd.

27Ac felly rhoddaist dy ddinas i ddwylo dy elynion.

28A wnânt hwy sydd yn preswylio yn Babilon ddim gwell, fel y caent hwy am hynny lywodraeth ar Seion?

29Canys pan ddeuthum yno, a gweled drygioni aneirif, yna fy enaid a welodd lawer o droseddwyr yn y ddegfed flwyddyn ar hugain hon; a’m calon a ddiffygiodd:

30Canys gwelais fel y cyd-ddygaist ti â hwynt yn pechu, ac yr arbedaist y drwgweithredwyr, ac y difethaist dy bobl dy hun, ac y cedwaist dy elynion; ac ni ddangosaist hyn.

31Ni fedraf fi feddwl pa fodd y gellir gadael y ffordd hon. Ai gwell gan hynny ydynt hwy o Babilon na hwy o Seion?

32Neu a oes pobl i’w cael a’th edwyn di heblaw Israel? neu pa genhedlaeth a gredodd i’th gyfamodau di fel Jacob?

33Ac er hynny ni welir mo’u gwobr hwynt, ac nid oes ffrwyth i’w llafur hwy: canys euthum yma a thraw trwy’r cenhedloedd, a gwelaf hwynt yn oludog, ac ni feddyliant am dy orchmynion di.

34Am hynny, pwysa mewn clorian ein pechodau ni, a’r eiddynt hwythau hefyd sy’n preswylio yn y byd; ac ni cheffir dy enw yn un lle ond yn Israel.

35Neu pa bryd ni phechodd yn dy olwg di y rhai sydd yn preswylio ar y ddaear? neu pa bobl a gadwodd felly dy orchmynion?

36Tydi a gei wybod erbyn ei enw mai Israel a gadwodd dy orchmynion, ac nid y cenhedloedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help