Exodus 18 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai DUW i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o’r ARGLWYDD Israel allan o’r Aifft;

2Yna Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd Seffora gwraig Moses, (wedi ei hebrwng hi yn ei hôl,)

3A’i dau fab hi; o ba rai enw un oedd Gersom: oblegid efe a ddywedasai, Dieithr fûm mewn gwlad estronol.

4Ac enw y llall oedd Elieser: oherwydd DUW fy nhad oedd gynhorthwy i mi (eb efe), ac a’m hachubodd rhag cleddyf Pharo.

5A Jethro, chwegrwn Moses, a ddaeth â’i feibion a’i wraig at Moses i’r anialwch, lle yr ydoedd efe yn gwersyllu gerllaw mynydd DUW.

6Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Myfi Jethro, dy chwegrwn di, sydd yn dyfod atat ti, a’th wraig a’i dau fab gyda hi.

7A Moses a aeth allan i gyfarfod â’i chwegrwn; ac a ymgrymodd, ac a’i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i’w gilydd: a daethant i’r babell.

8A Moses a fynegodd i’w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr ARGLWYDD i Pharo ac i’r Eifftiaid, er mwyn Israel; a’r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o’r ARGLWYDD hwynt.

9A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr ARGLWYDD i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Eifftiaid.

10A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a’ch gwaredodd o law yr Eifftiaid, ac o law Pharo; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Eifftiaid.

11Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr ARGLWYDD na’r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch ohono, yr oedd efe yn uwch na hwynt.

12A Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd boethoffrwm ac ebyrth i DDUW: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwyta bara gyda chwegrwn Moses, gerbron DUW.

13A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu’r bobl: a safodd y bobl gerbron Moses, o’r bore hyd yr hwyr.

14A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i’r bobl, efe a ddywedodd, Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i’r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o’r bore hyd yr hwyr?

15A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod ataf i ymgynghori â DUW.

16Pan fyddo iddynt achos, ataf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a’i gilydd, ac yn hysbysu deddfau DUW a’i gyfreithiau.

17A dywedodd chwegrwn Moses wrtho, Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur.

18Tydi a lwyr ddiffygi, a’r bobl yma hefyd y rhai sydd gyda thi: canys rhy drwm yw’r peth i ti; ni elli ei wneuthur ef dy hun.

19Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a’th gynghoraf di, a bydd DUW gyda thi: Bydd di dros y bobl gerbron DUW, a dwg eu hachosion at DDUW.

20Dysg hefyd iddynt y deddfau a’r cyfreithiau; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a’r gweithredoedd a wnânt.

21Ac edrych dithau allan o’r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni DUW, gwŷr geirwir, yn casáu cybydd-dod; a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.

22A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr atat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhei arnat dy hun, a hwynt-hwy a ddygant y baich gyda thi.

23Os y peth hyn a wnei, a’i orchymyn o DDUW i ti; yna ti a elli barhau, a’r holl bobl hyn a ddeuant i’w lle mewn heddwch.

24A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe.

25A Moses a ddewisodd wŷr grymus allan o holl Israel, ac a’u rhoddodd hwynt yn benaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.

26A hwy a farnasant y bobl bob amser: y pethau caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain.

27A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn; ac efe a aeth adref i’w wlad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help