Deuteronomium 20 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: oherwydd yr ARGLWYDD dy DDUW fydd gyda thi, yr hwn a’th ddug di i fyny o dir yr Aifft.

2A bydd, pan nesaoch i’r frwydr, yna ddyfod o’r offeiriad, a llefaru wrth y bobl,

3A dywedyd wrthynt, Clyw, Israel: Yr ydych chwi yn nesáu heddiw i’r frwydr yn erbyn eich gelynion: na feddalhaed eich calon, nac ofnwch, na synnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt.

4Canys yr ARGLWYDD eich DUW sydd yn myned gyda chwi, i ryfela â’ch gelynion trosoch chwi, ac i’ch achub chwi.

5A’r llywiawdwyr a lefarant wrth y bobl, gan ddywedyd, Pa ŵr sydd a adeiladodd dŷ newydd, ac nis cysegrodd ef? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei gysegru ef.

6A pha ŵr sydd a blannodd winllan, ac nis mwynhaodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei mwynhau hi.

7A pha ŵr sydd a ymgredodd â gwraig, ac ni chymerodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw mewn rhyfel, ac i ŵr arall ei chymryd hi.

8Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl, ac a ddywedant, Pa ŵr sydd ofnus a meddal galon? eled a dychweled i’w dŷ, fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau.

9A bydded, pan ddarffo i’r llywiawdwyr lefaru wrth y bobl, osod ohonynt dywysogion y lluoedd yn ben ar y bobl.

10Pan nesaech at ddinas i ryfela yn ei herbyn, cyhoedda iddi heddwch.

11A bydded, os heddwch a etyb hi i ti, ac agoryd i ti; yna bydded i’r holl bobl a gaffer ynddi, fod i ti dan deyrnged, a’th wasanaethu.

12Ac oni heddycha hi â thi, ond gwneuthur rhyfel â thi; yna gwarchae arni hi.

13Pan roddo yr ARGLWYDD dy DDUW hi yn dy law di, taro ei holl wrywiaid â min y cleddyf.

14Yn unig y benywaid, a’r plant, a’r anifeiliaid, a phob dim a’r a fyddo yn y ddinas, sef ei holl ysbail, a ysbeili i ti: a thi a fwynhei ysbail dy elynion, yr hwn a rydd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.

15Felly y gwnei i’r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthyt, y rhai nid ydynt o ddinasoedd y cenhedloedd hyn.

16Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth, na chadw un enaid yn fyw:

17Ond gan ddifrodi difroda hwynt; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, y Canaaneaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti.

18Fel na ddysgont i chwi wneuthur yn ôl eu holl ffieidd-dra hwynt, y rhai a wnaethant i’w duwiau, a phechu ohonoch yn erbyn yr ARGLWYDD eich DUW.

19Pan warchaeech ar ddinas lawer o ddyddiau, gan ryfela yn ei herbyn i’w hennill hi, na ddifetha ei choed hi, gan daro bwyell arnynt: canys ohonynt y bwytei; na thor dithau hwynt i lawr, (oherwydd bywyd dyn yw pren y maes,) i’w gosod yn y gwarchglawdd.

20Yn unig y pren y gwyddost nad pren ymborth yw, hwnnw a ddifethi ac a dorri: ac a adeiledi warchglawdd yn erbyn y ddinas fydd yn gwneuthur rhyfel â thi, hyd oni orchfyger hi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help