Jeremeia 42 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Felly holl dywysogion y llu, a Johanan mab Carea, a Jesaneia mab Hosaia, a’r holl bobl, o fychan hyd fawr, a nesasant,

2Ac a ddywedasant wrth Jeremeia y proffwyd, Atolwg, gwrando ein deisyfiad ni, a gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD dy DDUW, sef dros yr holl weddill hyn; (canys nyni a adawyd o lawer yn ychydig, fel y mae dy lygaid yn ein gweled ni;)

3Fel y dangoso yr ARGLWYDD dy DDUW i ni y ffordd y mae i ni rodio ynddi, a’r peth a wnelom.

4Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrthynt, Myfi a’ch clywais chwi; wele, mi a weddïaf ar yr ARGLWYDD eich DUW yn ôl eich geiriau chwi, a pheth bynnag a ddywedo yr ARGLWYDD amdanoch, myfi a’i mynegaf i chwi: nid ataliaf ddim oddi wrthych.

5A hwy a ddywedasant wrth Jeremeia, Yr ARGLWYDD fyddo dyst cywir a ffyddlon rhyngom ni, onis gwnawn yn ôl pob gair a anfono yr ARGLWYDD dy DDUW gyda thi atom ni.

6Os da neu os drwg fydd, ar lais yr ARGLWYDD ein DUW, yr hwn yr ydym ni yn dy anfon ato, y gwrandawn ni; fel y byddo da i ni, pan wrandawom ar lais yr ARGLWYDD ein DUW.

7Ac ymhen y deng niwrnod y daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia.

8Yna efe a alwodd ar Johanan mab Carea, ac ar holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, ac ar yr holl bobl o fychan hyd fawr,

9Ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW Israel, yr hwn yr anfonasoch fi ato i roddi i lawr eich gweddïau ger ei fron ef;

10Os trigwch chwi yn wastad yn y wlad hon, myfi a’ch adeiladaf chwi, ac nis tynnaf i lawr, myfi a’ch plannaf chwi, ac nis diwreiddiaf: oblegid y mae yn edifar gennyf am y drwg a wneuthum i chwi.

11Nac ofnwch rhag brenin Babilon, yr hwn y mae arnoch ei ofn; nac ofnwch ef, medd yr ARGLWYDD: canys myfi a fyddaf gyda chwi i’ch achub, ac i’ch gwaredu chwi o’i law ef.

12A mi a roddaf i chwi drugaredd, fel y trugarhao efe wrthych, ac y dygo chwi drachefn i’ch gwlad eich hun.

13Ond os dywedwch, Ni thrigwn ni yn y wlad hon, heb wrando ar lais yr ARGLWYDD eich DUW,

14Gan ddywedyd, Nage: ond i wlad yr Aifft yr awn ni, lle ni welwn ryfel, ac ni chlywn sain utgorn, ac ni bydd arnom newyn bara, ac yno y trigwn ni:

15Am hynny, O gweddill Jwda, gwrandewch yn awr air yr ARGLWYDD Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i’r Aifft, ac a ewch i ymdeithio yno,

16Yna y bydd i’r cleddyf, yr hwn yr ydych yn ei ofni, eich goddiwes chwi yno yn nhir yr Aifft; a’r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo, a’ch dilyn chwi yn yr Aifft; ac yno y byddwch feirw.

17Felly y bydd i’r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i’r Aifft, i aros yno, hwy a leddir â’r cleddyf, â newyn, ac â haint: ac ni bydd un ohonynt yng ngweddill, neu yn ddihangol, gan y dialedd a ddygaf fi arnynt.

18Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Megis y tywalltwyd fy llid a’m digofaint ar breswylwyr Jerwsalem; felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau, pan ddeloch i’r Aifft: a chwi a fyddwch yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth, ac ni chewch weled y lle hwn mwyach.

19O gweddill Jwda, yr ARGLWYDD a ddywedodd amdanoch, Nac ewch i’r Aifft: gwybyddwch yn hysbys i mi eich rhybuddio chwi heddiw.

20Canys rhagrithiasoch yn eich calonnau, wrth fy anfon i at yr ARGLWYDD eich DUW, gan ddywedyd, Gweddïa drosom ni ar yr ARGLWYDD ein DUW, a mynega i ni yn ôl yr hyn oll a ddywedo yr ARGLWYDD ein DUW, a nyni a’i gwnawn.

21A mi a’i mynegais i chwi heddiw, ond ni wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD eich DUW, nac ar ddim oll a’r y danfonodd efe fi atoch o’i blegid.

22Ac yn awr gwybyddwch yn hysbys, mai trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint, y byddwch chwi feirw yn y lle yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help