Jeremeia 21 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, pan anfonodd y brenin Sedeceia ato ef Pasur mab Melcheia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, gan ddywedyd,

2Ymofyn, atolwg, â’r ARGLWYDD drosom ni, (canys y mae Nebuchodonosor brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn ni,) i edrych a wna yr ARGLWYDD â ni yn ôl ei holl ryfeddodau, fel yr elo efe i fyny oddi wrthym ni.

3Yna y dywedodd Jeremeia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth Sedeceia;

4Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Wele fi yn troi yn eu hôl yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo, y rhai yr ydych yn ymladd â hwynt yn erbyn brenin Babilon, ac yn erbyn y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch o’r tu allan i’r gaer, a mi a’u casglaf hwynt i ganol y ddinas hon.

5A mi fy hun a ryfelaf i’ch erbyn â llaw estynedig, ac â braich gref, mewn soriant, a llid, a digofaint mawr.

6Trawaf hefyd drigolion y ddinas hon, yn ddyn, ac yn anifail: byddant feirw o haint mawr.

7Ac wedi hynny, medd yr ARGLWYDD, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i weision, a’r bobl, a’r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a’u tery hwynt â min y cleddyf; ni thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd.

8Ac wrth y bobl hyn y dywedi, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi yn rhoddi ger eich bron ffordd einioes, a ffordd angau.

9Yr hwn a drigo yn y ddinas hon a leddir gan y cleddyf, a chan y newyn, a chan yr haint; ond y neb a elo allan, ac a gilio at y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch, a fydd byw, a’i einioes fydd yn ysglyfaeth iddo.

10Canys mi a osodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg, ac nid er da, medd yr ARGLWYDD: yn llaw brenin Babilon y rhoddir hi, ac efe a’i llysg hi â thân.

11Ac am dŷ brenin Jwda, dywed, Gwrandewch air yr ARGLWYDD.

12O dŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Bernwch uniondeb y bore, ac achubwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr, rhag i’m llid dorri allan fel tân, a llosgi fel na allo neb ei ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd.

13Wele fi yn dy erbyn, yr hon wyt yn preswylio y dyffryn, a chraig y gwastadedd, medd yr ARGLWYDD; y rhai a ddywedwch, Pwy a ddaw i waered i’n herbyn? neu, Pwy a ddaw i’n hanheddau?

14Ond mi a ymwelaf â chwi yn ôl ffrwyth eich gweithredoedd, medd yr ARGLWYDD; a mi a gyneuaf dân yn ei choedwig, ac efe a ysa bob dim o’i hamgylch hi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help