1Pechod Jwda a ysgrifennwyd â phin o haearn, ag ewin o adamant y cerfiwyd ef ar lech eu calon, ac ar gyrn eich allorau;
2Gan fod eu meibion yn cofio eu hallorau a’u llwyni wrth y pren deiliog ar y bryniau uchel.
3O fy mynydd yn y maes, dy olud a’th holl drysorau di a roddaf yn anrhaith, a’th uchelfeydd i bechod, trwy dy holl derfynau.
4Ti a adewir hefyd dy hunan, heb dy etifeddiaeth a roddais i ti; a mi a wnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn tir nid adwaenost: canys cyneuasoch dân yn fy nig, yr hwn a lysg byth.
5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Melltigedig fyddo y gŵr a hydero mewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a’r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr ARGLWYDD.
6Canys efe a fydd fel y grug yn y diffeithwch, ac ni wêl pan ddêl daioni; eithr efe a gyfanhedda boethfannau yn yr anialwch, mewn tir hallt ac anghyfanheddol.
7Bendigedig yw y gŵr a ymddiriedo yn yr ARGLWYDD, ac y byddo yr ARGLWYDD yn hyder iddo.
8Canys efe a fydd megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ac a estyn ei wraidd wrth yr afon, ac ni ŵyr oddi wrth ddyfod gwres; ei ddeilen fydd ir, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid â ffrwytho.
9Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a’i hedwyn?
10Myfi yr ARGLWYDD sydd yn chwilio’r galon, yn profi ’r arennau, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd.
11Fel petris yn eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd.
12Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o’r dechreuad, yw lle ein cysegr ni.
13O ARGLWYDD, gobaith Israel, y rhai oll a’th wrthodant a waradwyddir, ysgrifennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf, am iddynt adael yr ARGLWYDD, ffynnon y dyfroedd byw.
14Iachâ fi, O ARGLWYDD, a mi a iacheir; achub fi, a mi a achubir: canys tydi yw fy moliant.
15Wele hwynt yn dywedyd wrthyf, Pa le y mae gair yr ARGLWYDD? deued bellach.
16Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di: ac ni ddymunais y dydd blin, ti a’i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o’m gwefusau yn uniawn ger dy fron di.
17Na fydd yn ddychryn i mi; ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd.
18Gwaradwydder fy erlidwyr, ac na’m gwaradwydder i; brawycher hwynt, ac na’m brawycher i: dwg arnynt ddydd drwg, a dryllia hwynt â drylliad dauddyblyg.
19Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Cerdda, a saf ym mhorth meibion y bobl, trwy yr hwn yr â brenhinoedd Jwda i mewn, a thrwy yr hwn y deuant allan, ac yn holl byrth Jerwsalem;
20A dywed wrthynt, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, brenhinoedd Jwda, a holl Jwda, a holl breswylwyr Jerwsalem, y rhai a ddeuwch trwy y pyrth hyn:
21Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Disgwyliwch ar eich eneidiau, ac na ddygwch faich ar y dydd Saboth, ac na ddygwch ef i mewn trwy byrth Jerwsalem;
22Ac na ddygwch faich allan o’ch tai ar y dydd Saboth, ac na wnewch ddim gwaith; eithr sancteiddiwch y dydd Saboth, fel y gorchmynnais i’ch tadau.
23Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust; eithr caledasant eu gwarrau rhag gwrando, a rhag derbyn addysg.
24Er hynny os dyfal wrandewch arnaf, medd yr ARGLWYDD, heb ddwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth, ond sancteiddio y dydd Saboth, heb wneuthur dim gwaith arno:
25Yna y daw trwy byrth y ddinas hon, frenhinoedd a thywysogion yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, hwy a’u tywysogion, gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem; a’r ddinas hon a gyfanheddir byth.
26Ac o ddinasoedd Jwda, ac o amgylchoedd Jerwsalem, ac o wlad Benjamin, ac o’r gwastadedd, ac o’r mynydd, ac o’r deau, y daw rhai yn dwyn poethoffrymau, ac aberthau, a bwyd-offrymau, a thus, ac yn dwyn aberthau moliant i dŷ yr ARGLWYDD.
27Ond os chwi ni wrendy arnaf, i sancteiddio y dydd Saboth, heb ddwyn baich, wrth ddyfod i byrth Jerwsalem, ar y dydd Saboth: yna mi a gyneuaf dân yn ei phyrth hi, ac efe a ysa balasau Jerwsalem, ac nis diffoddir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.