Y Salmau 34 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 34Salm Dafydd, pan newidiodd efe ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a’i gyrrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd.

1Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.

2Yn yr ARGLWYDD y gorfoledda fy enaid: y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant.

3Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi; a chyd-ddyrchafwn ei enw ef.

4Ceisiais yr ARGLWYDD, ac efe a’m gwrandawodd; gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn.

5Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd; a’u hwynebau ni chywilyddiwyd.

6Y tlawd hwn a lefodd, a’r ARGLWYDD a’i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau.

7Angel yr ARGLWYDD a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef, ac a’u gwared hwynt.

8Profwch, a gwelwch mor dda yw yr ARGLWYDD: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo.

9Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef: canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef.

10Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuainc: ond y sawl a geisiant yr ARGLWYDD, ni bydd arnynt eisiau dim daioni.

11Deuwch, blant, gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr ARGLWYDD.

12Pwy yw y gŵr a chwennych fywyd, ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni?

13Cadw dy dafod rhag drwg, a’th wefusau rhag traethu twyll.

14Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda; ymgais â thangnefedd, a dilyn hi.

15Llygaid yr ARGLWYDD sydd ar y cyfiawn: a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt.

16Wyneb yr ARGLWYDD sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg, i dorri eu coffa oddi ar y ddaear.

17Y rhai cyfiawn a lefant; a’r ARGLWYDD a glyw, ac a’u gwared o’u holl drallodau.

18Agos yw yr ARGLWYDD at y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd.

19Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr ARGLWYDD a’i gwared ef oddi wrthynt oll.

20Efe a geidw ei holl esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt.

21Drygioni a ladd yr annuwiol: a’r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir.

22Yr ARGLWYDD a wared eneidiau ei weision: a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help